Llwybr dysgu yn y cartref
Gwyddom fod gan athrawon a rhieni lawer i’w cadw’n brysur, ond beth allai fod yn fwy grymusol na dysgu sgiliau cymorth cyntaf hanfodol? Hyd yn oed yn well, gall y teulu cyfan gymryd rhan.
Mae’r adnodd Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf* yn llawn gweithgareddau dysgu ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 5 ac 18 oed. O ffilmiau a ffotograffau i weithgareddau chwarae rôl a chwisiau, mae rhywbeth at ddant pawb.
I’ch helpu i ddechrau ar y wefan, rydym wedi creu dau lwybr dysgu (ar gyfer pob un o’r adrannau cynradd ac uwchradd) i’ch helpu i ddefnyddio’r safle mewn lleoliad dysgu yn y cartref. Mae’r safle cyfan yn rhad ac am ddim i chi ei ddefnyddio a’i archwilio, ac mae’r llwybrau yno i’ch tywys os oes angen.
Llwybr cynradd 1
- Dechreuwch drwy gwrdd â’r wyth cymeriad cyfarwydd y byddwch chi’n dysgu gyda nhw.
- Archwiliwch pam mae dysgu cymorth cyntaf yn bwysig a dewiswch eich sgiliau cymorth cyntaf.
- Archwiliwch dair sgil:
- Profwch eich hun gyda’n cwisiau.
- Archwiliwch meddwl am helpu.
- Deall pryd i ffonio 999.
- Rhannwch eich sgiliau ag eraill.
Gallwch barhau i weithio drwy’r safle neu weithio drwy’r llwybr arall. Cliciwch ar y cynlluniau addysgu i’w lawrlwytho i weld syniadau am weithgareddau sy’n berthnasol i bob sgil.
I gael manylion llawn y llwybr, lawrlwythwch y ddogfen isod.
Lawrlwytho llwybr dysgu yn y cartref 1
0.2mb
Llwybr dysgu yn y cartref 1 – Cynradd
Llwybr cynradd 2
- Canolbwyntiwch ar feddwl am ymdopi a charedigrwydd.
- Meddyliwch am ddiogelwch yn y cartref.
- Dysgwch sgil a phrofwch eich hun gyda chwis. Archwiliwch sut i helpu rhywun sydd:
- ag anaf i’r pen a chwis
- efallai wedi torri asgwrn a chwis
- yn tagu a chwis
- Rhannwch eich sgiliau newydd gydag eraill yn eich cartref.
Gallwch barhau i weithio drwy’r safle neu weithio drwy’r llwybr arall. Cliciwch ar y cynlluniau addysgu i’w lawrlwytho i weld syniadau am weithgareddau sy’n berthnasol i bob sgil.
I gael manylion llawn y llwybr, lawrlwythwch y ddogfen isod.
Lawrlwytho llwybr dysgu yn y cartref 2
0.2mb
Llwybr dysgu yn y cartref 2 - Cynradd
Adborth
Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth ar Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf. Anfonwch neges e-bost at reducation@redcross.org.uk i leisio eich barn am sut y gallwn wella’r safle.