Trawsgrifiad fideo ‘Ysbrydoli i helpu’ Beth
“Helo. Beth ydw i. Beth sy’n fy ysbrydoli i helpu? Wel, mae pobl eraill yn bwysig i mi. Rydw i’n ceisio dychmygu sut maent yn teimlo. Pe bai angen help arnaf – byddwn i eisiau i rywun fy helpu. Rydw i eisiau gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo bod rhywun yn gofalu amdanynt ac yn gwybod bod rhywun bob amser eisiau eu helpu. Mae mor bwysig meddwl am bobl eraill a bod yn garedig. Byddwch yn garedig a daliwch ati i helpu!”