Ymarfer sgiliau cymorth cyntaf

First aid kit. Pecyn cymorth cyntaf.

Ar ôl i’ch grŵp ddysgu amrywiaeth o sgiliau cymorth cyntaf, gallant eu hymarfer er mwyn gweld beth maen nhw wedi’i ddysgu a rhoi eu sgiliau ar waith.  Mae modd defnyddio’r syniadau ar gyfer gweithgareddau isod mewn grwpiau. Maen nhw’n weithgareddau rhyngweithiol a chyflym sy'n atgoffa dysgwyr beth i’w wneud pan fydd angen cymorth cyntaf ar rywun.

Amcanion dysgu

  • Ymarfer rhoi’r sgiliau cymorth cyntaf ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
  • Deall effaith y gwyliwr a rhinweddau rhywun sy’n helpu
  • Ymarfer blaenoriaethu a goresgyn rhwystrau rhag helpu mewn sefyllfa hysbys
A teacher standing in front of a whiteboard. Athro yn sefyll o flaen bwrdd gwyn.

Syniadau gweithgareddau ymarfer

Ymarfer y sgiliau

Bydd y dysgwyr yn ymarfer defnyddio’r sgiliau maen nhw wedi’u dysgu drwy feimio’r camau neu eu hymarfer ar fanicin. Anogwch y dysgwyr i wneud hyn mewn parau a gwylio a chefnogi ei gilydd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn dilyn y camau’n gywir.

Carwsél sgiliau

Bydd y dysgwyr yn ymarfer adnabod yr anaf/salwch a’r camau cymorth cyntaf cywir sydd eu hangen i helpu drwy symud rhwng gorsafoedd cymorth cyntaf mewn carwsél. Bydd rhywun ym mhob gorsaf yn darllen yr arwyddion a’r symptomau y mae’r person hwnnw’n eu dangos, a bydd y dysgwyr yn dweud beth ydyw a sut dylen nhw helpu.

Eitemau cymorth cyntaf pob dydd

Dangoswch ddetholiad o eitemau pob dydd i'r dysgwyr y gallen nhw ddod o hyd iddyn nhw o gwmpas eu tŷ neu yn eu meddiant a gofynnwch iddyn nhw baru’r eitem â’r sgìl a disgrifio sut bydden nhw’n ei defnyddio i helpu.

Chwarae rôl

Mewn grwpiau bach, anogwch y dysgwyr i ddarllen drwy’r detholiad o gardiau chwarae rôl ar bob un o’r tudalennau sgiliau cymorth cyntaf a thrafod y gwahanol bobl dan sylw, sut gwnaethon nhw helpu a sut gallen nhw helpu’n wahanol yn y dyfodol. Defnyddiwch ddetholiad o weithgareddau eraill i berfformio’r gweithgareddau chwarae rôl hyn ac ymchwilio i’r adegau allweddol yn y stori.

Ymarfer

Gallwch lawrlwytho cynllun llawn y syniadau ar gyfer gweithgareddau yma:

0.4mb

Ymarfer sgiliau cymorth cyntaf – syniadau gweithgareddau addysgu

Lawrlwytho Ymarfer sgiliau cymorth cyntaf – syniadau gweithgareddau addysgu (DOCX)

Raheem checks for breaths on his unresponsive friend Mark. Mae Raheem yn gwirio am anadliadau ar ei ffrind sy'n ddiymateb Mark.

Sgiliau cymorth cyntaf

Dysgu ac ymarfer 17 o wahanol sgiliau cymorth cyntaf y gall myfyrwyr ysgol uwchradd eu defnyddio i helpu eraill.

Joanna reassures Finn after his allergic reaction. Mae Joanna yn cysuro Finn ar ôl ei adwaith alergaidd.

Helpu eraill

Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr a'r hyn sy’n cymell pobl i helpu

Josh and his friends look happy after he has recovered from his asthma attack. Mae Josh a'i ffrindiau'n edrych yn hapus ar ôl iddo wella o'i bwl o asthma.

Diogelwch a lles

Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.

Allanah is wrapped in a blanket and her friends are trying to warm her up with a hot drink. Mae Allanah wedi ei lapio mewn blanced ac mae ei ffrindiau yn ceisio ei chynhesu gyda diod boeth.

Rhannu a chofio

Cyfle i rannu’r pethau rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill, a chofio’r pethau rydych chi wedi’i ddysgu.