Ymarfer sgiliau cymorth cyntaf

Nawr bod eich grŵp wedi dysgu amrywiaeth o sgiliau cymorth cyntaf – gan gynnwys y gweithredoedd a’r camau allweddol i’w cymryd mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd – mae’n bryd ymarfer yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu.

Mae’r gweithgareddau hyn wedi’u cynllunio i’w defnyddio gyda dosbarth neu grŵp. Gall plant ymarfer amrywiaeth o sgiliau cymorth cyntaf i atgyfnerthu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu. Mae’r syniadau hyn am weithgareddau’n ddiddorol, yn rhyngweithiol ac yn ffordd ddefnyddiol o wirio cynnydd.

Amcanion dysgu

  • Ymarfer rhoi’r sgiliau cymorth cyntaf ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
  • Deall pam a sut gall pawb helpu mewn sefyllfa cymorth cyntaf
An arrow hits a target. Saeth yn taro targed.

Mae'r syniadau hyn am weithgareddau ymarfer yn cynnwys:

Ymarfer y sgiliau

Bydd y dysgwyr yn ymarfer defnyddio’r sgiliau maen nhw wedi’u dysgu drwy feimio’r camau neu eu hymarfer ar fanicin. Anogwch y dysgwyr i wneud hyn mewn parau a gwylio a chefnogi ei gilydd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn dilyn y camau’n gywir.

Eitemau cymorth cyntaf pob dydd

Dangoswch ddetholiad o eitemau pob dydd i'r dysgwyr y gallen nhw ddod o hyd iddyn nhw o gwmpas eu tŷ neu yn eu meddiant a gofynnwch iddyn nhw baru’r eitem â’r sgìl a disgrifio sut bydden nhw’n ei defnyddio i helpu.

Chwarae rôl

Mewn grwpiau bach, anogwch y dysgwyr i ddarllen drwy’r detholiad o gardiau chwarae rôl ar bob un o’r tudalennau sgiliau cymorth cyntaf a thrafod y gwahanol bobl dan sylw, sut gwnaethon nhw helpu a sut gallen nhw helpu’n wahanol yn y dyfodol. Defnyddiwch ddetholiad o weithgareddau eraill i berfformio’r gweithgareddau chwarae rôl hyn ac ymchwilio i’r adegau allweddol yn y stori.

Ymarfer

Lawrlwythwch y cynllun llawn o’r syniadau ar gyfer y gweithgaredd fan hyn

0.4mb

Ymarfer sgiliau cymorth cyntaf – syniadau ar gyfer y gweithgaredd dysgu

Lawrlwytho Ymarfer sgiliau cymorth cyntaf – syniadau ar gyfer y gweithgaredd dysgu (DOCX)

Dele checks to see if his grandfather can respond. Mae Dele yn gwirio i weld a all ei dad-cu ymateb.

Sgiliau cymorth cyntaf i blant

Dysgu ac ymarfer wyth sgil cymorth cyntaf gwahanol y gall plant ysgol gynradd eu defnyddio i helpu eraill.

Jonjo and Ekam talk to an adult. Jonjo a Ekam yn siarad i oedolyn.

Diogelwch

Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel wrth helpu eraill.

Jonjo and his father reassure Ekam. Mae Jonjo a'i dad yn cysuro Ekam.

Caredigrwydd ac ymdopi

Cyfle i ddysgu am garedigrwydd ac ymarfer sut i ymdopi a pheidio â chynhyrfu.

Liya and her father talking in a park. Liya a'i thad yn siarad yn y parc.

Rhannu

Cyfle i rannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill.