Strôc
![Anthony reassures his grandfather, who is having a stroke. Mae Anthony yn cysuro ei dad-cu, sy'n cael strôc.](/media/xyamqvds/str_07_4297-skillsized.jpg)
Dysgwch sut i helpu rhywun sy’n cael strôc.
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod pan fydd rhywun yn cael strôc
- Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd pan fydd rhywun yn cael strôc
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannu rhywbeth creadigol er mwyn rhoi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw helpu rhywun sy'n cael strôc
![An arrow hits a target. Saeth yn taro targed.](/media/stgjryj2/brc_first_aid_icon__practice.png)
Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Cliciwch drwy’r sleidiau isod i wylio’r ffilm.
Cymorth cyntaf ar gyfer strôc
![Anthony gestures at his grandad to hold both arms up. His grandad is only holding one arm up. Mae Anthony yn ystumio at ei dad-cu i ddal y ddwy fraich i fyny. Dim ond un fraich y mae ei daid yn dal i fyny.](/media/5p3h0asn/str_03_4088-skillsized.jpg)
Cam 1.
Cofiwch y cam N.E.S.A. (English - F.A.S.T)
Nam ar yr wyneb: a oes gwendid ar un ochr i’w wyneb?
Estyn: a yw'n gallu codi’r ddwy fraich?
Siarad: a yw'n hawdd ei ddeall yn siarad?
Amser: ffonio 999.
![Anthony calls 999 and is looking at his watch. Mae Anthony yn ffonio 999 ac yn edrych ar ei oriawr.](/media/rosj5uqp/str_04_4235-skillsized.jpg)
Cam 2.
Ffoniwch 999 ar unwaith, neu gofynnwch i rywun arall wneud hynny.
![Anthony reassures his grandfather, who is having a stroke. Mae Anthony yn cysuro ei dad-cu, sy'n cael strôc.](/media/xyamqvds/str_07_4297-skillsized.jpg)
Cam 3.
Siaradwch â’r person er mwyn ei gysuro wrth i chi aros i help gyrraedd.
Allwch chi helpu rhywun sy’n cael strôc?
Dysgu
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ddysgu beth i’w wneud pan fydd rhywun yn cael strôc.
0.4mb
Strôc – gweithgaredd dysgu
0.1mb
Strôc – arweiniad sgiliau dysgwyr
Ymarfer
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ymarfer sut i helpu rhywun sy'n cael strôc.
0.4mb
Ymarfer y sgìl cymorth cyntaf
0.2mb
Strôc - Ymarfer: Cardiau chwarae rôl
Rhannu a chofio
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i gofio’r camau allweddol a rhannu eu gwybodaeth ag eraill.
![Share symbol](/media/1j1hekru/brc_first_aid_icon__share.png)
Neu ewch i...
![Raheem checks for breaths on his unresponsive friend Mark. Mae Raheem yn gwirio am anadliadau ar ei ffrind sy'n ddiymateb Mark.](/media/hcghlibg/unresonsive-breathing-step1-resized.jpg)
Ddiymateb ond yn anadlu
Dysgwch sut i helpu rhywun sy’n ddiymateb ond sy'n anadlu
![Joanna reassures Finn after his allergic reaction. Mae Joanna yn cysuro Finn ar ôl ei adwaith alergaidd.](/media/wkyl5cmh/ai_08-7549-skillsize-1.jpg)
Helpu eraill
Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr a'r hyn sy’n cymell pobl i helpu
![Josh and his friends look happy after he has recovered from his asthma attack. Mae Josh a'i ffrindiau'n edrych yn hapus ar ôl iddo wella o'i bwl o asthma.](/media/11vf0zth/asthma-skillsize-2.jpg)
Diogelwch a lles
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.