Diogelwch a lles

Josh and his friends look happy after he has recovered from his asthma attack. Mae Josh a'i ffrindiau'n edrych yn hapus ar ôl iddo well o'i bwl o asthma.

Cadw eich hun yn ddiogel a gofalu am eich lles

Pan fyddwn ni’n helpu rhywun drwy roi cymorth cyntaf, mae hefyd yn bwysig cadw ein hunain yn ddiogel. Gallai hyn olygu cadw golwg am unrhyw beryglon, neu wneud yn siŵr ein bod yn teimlo’n hyderus ac yn gallu ymdopi â sefyllfaoedd annisgwyl. Gallai hefyd olygu gwybod at bwy i droi am gymorth neu gefnogaeth a meddu ar rywfaint o sgiliau i ymdopi. Cofiwch y gallwn bob amser alw am help os bydd angen.

 

Cymorth cyntaf ymarferol ac emosiynol

Yn y gweithgaredd hwn, ystyriwch beth sydd ei angen wrth helpu eraill drwy archwilio'r agweddau ymarferol ac emosiynol ar gymorth cyntaf. Cymerwch ddalen o bapur a thynnwch linell i lawr y canol i wneud dwy golofn. Ysgrifennwch ‘ymarferol’ ar frig un golofn, ac ‘emosiynol’ ar frig y llall.

Meddyliwch sut gallai person ifanc gefnogi rhywun mewn sefyllfa cymorth cyntaf. Gallai hyn fod yn ‘ymarferol’, e.e. rhoi pwysau ar glwyf, ffonio 999 ac ati, neu’n ‘emosiynol’, e.e. tawelu meddwl rhywun, neu ei gysuro nes bydd help yn cyrraedd ac ati. Nodwch eich syniadau yn y colofnau.

Nawr ystyriwch a oes angen y ddau ddull ar gyfer cymorth cyntaf. Beth all y person sy’n helpu ei wneud i'w helpu ei hun, yn emosiynol ac yn ymarferol?

Dysgu

0.4mb

Cymorth cyntaf ymarferol ac emosiynol – gweithgaredd addysgu

Lawrlwytho Cymorth cyntaf ymarferol ac emosiynol – gweithgaredd addysgu (DOCX)

Adrannau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Nick reassures Simon, who is holding frozen peas against his head injury. Mae Nick yn cysuro Simon, sy'n dal bag o bys wedi rhewi yn erbyn anaf i'w ben.

Sgiliau ymdopi

Cyfle i ddysgu sut i ymdopi mewn argyfwng cymorth cyntaf

Raheem checks for breaths on his unresponsive friend Mark. Mae Raheem yn gwirio am anadliadau ar ei ffrind sy'n ddiymateb Mark.

Sgiliau cymorth cyntaf

Dysgu ac ymarfer 17 o wahanol sgiliau cymorth cyntaf y gall myfyrwyr ysgol uwchradd eu defnyddio i helpu eraill.

Joanna reassures Finn after his allergic reaction. Mae Joanna yn cysuro Finn ar ôl ei adwaith alergaidd.

Helpu eraill

Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr a'r hyn sy’n cymell pobl i helpu

Allanah is wrapped in a blanket and her friends are trying to warm her up with a hot drink. Mae Allanah wedi ei lapio mewn blanced ac mae ei ffrindiau yn ceisio ei chynhesu gyda diod boeth.

Rhannu a chofio

Cyfle i rannu’r pethau rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill, a chofio’r pethau rydych chi wedi’i ddysgu.