Anaf i’r pen
Sut i helpu rhywun sydd wedi cael anaf i’r pen.
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod pan fydd rhywun wedi cael anaf i’r pen
- Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd pan fydd rhywun wedi cael anaf i’r pen
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannu rhywbeth creadigol er mwyn rhoi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw helpu rhywun sydd wedi cael anaf i’r pen
Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodi i gadw a thracio eich canlyniadau
Cliciwch drwy’r sleidiau isod i wylio’r ffilm
Cliciwch y linc isod i ddarllen y trawsgrifiad fideo.
Cymorth cyntaf ar gyfer anaf i’r pen
![Dele has fallen off a skateboard. Georgia rushes to see if he's okay. Mae Dele wedi disgyn oddi ar fwrdd sglefrio. Mae Georgia yn rhuthro i weld a yw'n iawn.](/media/v2olcibr/head-injury-1.jpg)
Cam 1
Efallai ei fod wedi taro ei ben. Gallai ei ben brifo a gall bwmp ymddangos arno.
![Dele is holding his hand to his head. Georgia reassures him. Mae Dele yn dal ei law at ei ben. Mae Georgia yn ei gysuro.](/media/o5ccqlc4/head-injury-2.jpg)
Cam 2
Helpwch yr unigolyn i orffwys.
![Dele holds frozen peas against a bump on his head. Mae Dele yn dal pys wedi rhewi ar yr anaf i'w ben.](/media/ln1jubzr/head-injury-3.jpg)
Cam 3
Daliwch rywbeth oer ar y man lle mae wedi taro ei ben (fel bag o bys wedi’u rhewi wedi’i lapio mewn lliain sychu llestri).
![Dele holds frozen peas against a bump on his head. Georgia and her mum comfort him. Mae Dele yn dal pys wedi rhewi yn erbyn yr anaf i'w ben. Mae Georgia a'i mam yn ei gysuro.](/media/deldgidt/head-injury-4.jpg)
Cam 4
Dywedwch wrth oedolyn. Os bydd yn gysglyd, yn chwydu neu wedi drysu, ffoniwch 999.
Ydych chi’n credu eich bod yn gwybod sut i helpu rhywun sydd wedi cael anaf i’r pen?
Dysgu
Defnyddiwch yr adnoddau hyn er mwyn helpu plant i ddysgu sut i helpu rhywun sydd wedi cael anaf i’r pen.
0.4mb
Anaf i'r pen - gweithgaredd dysgu
1.2mb
Anaf i’r pen – Powerpoint dysgu
0.1mb
Anaf i'r pen - cerdyn sut i helpu
Ymarfer
Defnyddiwch yr adnoddau hyn er mwyn helpu plant i ymarfer sut i helpu rhywun sydd wedi cael anaf i’r pen.
0.4mb
Ymarfer y sgìl cymorth cyntaf
0.4mb
Anaf i’r pen - Cerdyn chwarae rôl - ymarfer
Lawrlwytho Anaf i’r pen - Cerdyn chwarae rôl - ymarfer (DOCX)
Rhannu eich gwybodaeth ag eraill
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu plant i gofio a rhannu eu gwybodaeth ag eraill.
![Share symbol. Symbol rhannu.](/media/olnhbr5m/share.png)
Neu ewch i...
![Liya and her father have rolled the jogger onto his side. Mae Liya a'i thad wedi rholio'r lonciwr ar ei ochr.](/media/jxzmphsz/uab-5.jpg)
Ddiymateb ond yn anadlu
Dysgwch sut i helpu rhywun sy'n ddiymateb ond yn anadlu.
![Jonjo and Ekam talk to an adult. Jonjo a Ekam yn siarad i oedolyn.](/media/nslpmtan/219a1531-jpg-safety.jpg)
Diogelwch
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel wrth helpu eraill.
![Jonjo and his father reassure Ekam. Mae Jonjo a'i dad yn cysuro Ekam.](/media/g3sbysoj/copy-of-219a5822.jpg)
Caredigrwydd ac ymdopi
Cyfle i ddysgu am garedigrwydd ac ymarfer sut i ymdopi a pheidio â chynhyrfu.