Trawsgrifiad fideo anaf i’r pen

Dele: Rwyt ti’n gwneud i mi deimlo’n chwil nawr.

Georgia: Awydd tro?

Dele: Na.

Georgia: Dylet ti roi cynnig arni, wedyn fe allen ni sglefrfyrddio gyda’n gilydd.

Dele: Rwy'n eithaf hapus yn chwarae gemau fideo, diolch yn fawr.

Georgia: Rho gynnig arni, fe wna i ddangos i ti sut. Beth am i ti sefyll arno a gweld sut mae'n teimlo.

Dele: Iawn. Fe wna i roi cynnig arni.

Georgia: Ti’n gweld?

Dele: Ha, mae’n teimlo’n rhyfedd.

Georgia: Arhosa am funud, rwy’n mynd i nôl ffôn Mam i dynnu llun.

Dele: Wow!

Georgia: Wyt ti’n iawn?

Dele: Aww fy mhen i!

Georgia: Arhosa – fe af fi i nôl Mam. Mam! Mam! Sut wyt ti’n teimlo?

Dele: Mae’n brifo.

Mam: Georgia? Dele? Beth ddigwyddodd? Wyt ti’n iawn?

Georgia: Rwyf wedi'i helpu i roi pys wedi'u rhewi ar ei ben er mwyn i’r chwydd fynd i lawr.

Mam: Gad i mi edrych. Wel, dwyt ti ddim yn gwaedu, sy’n beth da, ond rwy'n mynd i ffonio dy rieni i roi gwybod iddyn nhw. Tyrd gyda fi. Tyrd i mewn ac eistedda i lawr.

Dele: Iawn. Diolch.

Georgia: Os bydd rhywun wedi brifo ei ben, helpwch ef i orffwys. Daliwch rywbeth oer lle mae wedi taro ei ben a dywedwch wrth oedolyn. Os bydd rhywun wedi brifo ei ben, cofiwch oeri’r chwydd neu’r clais.