Llid yr ymennydd
![Sarah notices that Liv looks very unwell, holding her hand to her head and sweating. Mae Sarah yn sylwi bod Liv yn edrych yn sâl iawn, yn dal ei llaw at ei phen ac yn chwysu.](/media/qbxmbhie/herov2meningtis.jpg)
Dysgwch sut i helpu rhywun sydd â llid yr ymennydd.
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod pan fydd gan rywun lid yr ymennydd o bosibl
- Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd pan fydd gan rywun lid yr ymennydd o bosibl
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannu rhywbeth creadigol er mwyn rhoi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw helpu rhywun sydd â llid yr ymennydd o bosibl
Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Sut i helpu rhywun sydd â llid yr ymennydd
![Sarah notices that Liv looks very unwell, holding her hand to her head and sweating. Mae Sarah yn sylwi bod Liv yn edrych yn sâl iawn, yn dal ei llaw at ei phen ac yn chwysu.](/media/unoju3o3/scene-3-skillsize.jpg)
Cam 1
Mae’n bosibl y bydd gan yr unigolyn symptomau tebyg i’r ffliw, cur pen a thymheredd uchel. Efallai y bydd y person hefyd yn cwyno bod ei wddf yn stiff a’i fod yn sensitif i olau.
![Sarah dials 999 on her mobile phone. Mae Sarah yn galw 999 ar ei ffôn symudol.](/media/lgpftuuq/final-screen-skillsize.jpg)
Cam 2
Os byddwch chi’n gweld y symptomau hyn, ffoniwch 999 ar unwaith, neu gofynnwch i rywun arall wneud hynny.
![Sarah calls for an ambulance, while Liv looks very unwell. Mae Sarah yn galw am ambiwlans, tra bod Liv yn edrych yn sâl iawn.](/media/plzbtud3/scene-7-skillsize.jpg)
Cam 3
Rhowch sicrwydd parhaus i'r person wrth i chi aros am yr ambiwlans.
Allwch chi helpu rhywun sydd â llid yr ymennydd?
Dysgu
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ddysgu beth i’w wneud pan fydd gan rywun lid yr ymennydd.
0.4mb
Llid yr ymennydd – gweithgaredd dysgu
0.1mb
Llid yr ymennydd – arweiniad sgiliau dysgwyr
Lawrlwytho Llid yr ymennydd – arweiniad sgiliau dysgwyr (PDF)
Ymarfer
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ymarfer sut i helpu rhywun sydd â llid yr ymennydd.
0.4mb
Ymarfer y sgìl cymorth cyntaf
0.2mb
Llid yr ymennydd - Ymarfer: Cardiau chwarae rôl
Lawrlwytho Llid yr ymennydd - Ymarfer: Cardiau chwarae rôl (PDF)
Rhannu a chofio
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i gofio’r camau allweddol a rhannu eu gwybodaeth ag eraill.
![Share symbol](/media/1j1hekru/brc_first_aid_icon__share.png)
Neu ewch i...
![Jade calls 999 and reassures Carly. Mae Jade yn ffonio 999 ac yn cysuro Carly.](/media/cjsjch55/_brc-5583-skillsize.jpg)
Gwenwyno / sylweddau niweidiol
Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd i helpu pan fydd rhywun wedi llyncu rhywbeth niweidiol
![Joanna reassures Finn after his allergic reaction. Mae Joanna yn cysuro Finn ar ôl ei adwaith alergaidd.](/media/wkyl5cmh/ai_08-7549-skillsize-1.jpg)
Helpu eraill
Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr a'r hyn sy’n cymell pobl i helpu
![Josh and his friends look happy after he has recovered from his asthma attack. Mae Josh a'i ffrindiau'n edrych yn hapus ar ôl iddo wella o'i bwl o asthma.](/media/11vf0zth/asthma-skillsize-2.jpg)
Diogelwch a lles
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.