Lily is on the floor after falling off her skateboard. Mae Lily ar y llawr ar ôl disgyn oddi ar ei bwrdd sglefrio.

Pa mor hyderus ydych chi’n teimlo ynglŷn â helpu rhywun sydd â straen neu ysigiad?

0
Ddim yn hyderus o gwbl
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
Yn gwbl hyderus
Lily is smiling. Mae Lily yn gwenu.

Mae Lily, Hayden a Matt yn sglefrio i’r parc, pan mae Lily’n syrthio ac yn troi ei ffêr. Mae Matt yn camu i mewn ac yn penderfynu sut i helpu.

Lily is on the floor after falling off her skateboard. Mae Lily ar y llawr ar ôl disgyn oddi ar ei bwrdd sglefrio.

Doeddwn i ddim yn talu sylw ac mae’n rhaid fy mod i wedi taro carreg balmant rydd neu rywbeth gan i fy mwrdd sglefrfyrddio droi’n sydyn a chwympais a throi fy ffêr.

Lily is on the floor after falling off her skateboard. Mae Lily ar y llawr ar ôl disgyn oddi ar ei bwrdd sglefrio.

Roedd wir yn brifo! Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud felly roeddwn i’n eistedd yno, yn cydio yn y ffêr ac yn ceisio peidio â chrïo. Dywedodd Matt fod angen i mi gynnal yr anaf a helpodd fi i orffwys fy nhroed ar ei fag.

Lily is on the floor after falling off her skateboard. Mae Lily ar y llawr ar ôl disgyn oddi ar ei bwrdd sglefrio.

Roedd fy ffêr yn dechrau chwyddo ac roedd yn teimlo’n ddolurus iawn. Dywedodd Matt wrth Hayden am redeg yn ôl i’w dŷ a gafael mewn rhywbeth oer iawn i’w roi arno i atal y chwydd.

Mae Lily yn cynnal ei choes ar fag. Mae Matt yn ei chysuro ac mae Hayden yn rhedeg i gael pys wedi rhewi.

Daeth Hayden yn ôl gyda bag oer iawn o bys wedi rhewi. Lapiodd Matt y bag o bys yn ei grys-t, a rhoi’r pecyn rhew dros dro hwn yn ofalus ar fy ffêr.

Lily is sitting on the floor with her leg supported by a bag. Hayden and Matt reassure her. Mae Lily yn eistedd ar y llawr gyda'i choes yn cael ei chynnal gan fag. Mae Hayden a Matt yn ei chysuro.

Roedd Matt a Hayden yn wych ac fe arhoson nhw efo fi nes i mi ddechrau teimlo’n well. Pwy wyddai y gallai pecyn o lysiau wedi rhewi wneud cymaint o wahaniaeth?

Syrthiodd Lily oddi ar ei bwrdd yng nghanol y stryd. A wnaeth ei ffrindiau gymryd ei hanaf o ddifrif neu ei anwybyddu?

Mae chwyddo a phoen mewn cyhyr neu gymal yn arwyddion cyffredin bod rhywun wedi cael straen neu ysigiad? Pa arwydd arall allen ni chwilio amdano?

Pam wnaeth Hayden roi bag o bys wedi rhewi ar ffêr Lily?

Lily is supporting her leg on a bag and has frozen peas on her ankle. Hayden and Matt reassure her. Mae Lily yn cynnal ei choes ar fag ac mae pys wedi rhewi ar ei ffêr. Mae Hayden a Matt yn ei chysuro.

Pa mor hyderus ydych chi’n teimlo ynglŷn â helpu rhywun sydd â straen neu ysigiad?

0
Ddim yn hyderus o gwbl
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
Yn gwbl hyderus
Lily is supporting her leg on a bag and has frozen peas on her ankle. Hayden and Matt reassure her. Mae Lily yn cynnal ei choes ar fag ac mae pys wedi rhewi ar ei ffêr. Mae Hayden a Matt yn ei chysuro.

Cymryd camau: Os oes rhywun yn cael straen neu ysigiad, rhowch becyn iâ ar yr anaf.

Cychwyn eto