Addysgu sgiliau cymorth cyntaf i blant
Dechrau arni gyda Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf
P’un a ydych chi wedi addysgu sgiliau cymorth cyntaf o’r blaen neu’n gwbl newydd iddo, bydd Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf yn eich helpu i gyflwyno sesiynau dysgu cymorth cyntaf yn hyderus yn eich ysgol neu’ch grŵp ieuenctid. Drwy weithgareddau hawdd eu dilyn ac amrywiaeth o ddeunyddiau ategol diddorol a thrawiadol, mae’r adnoddau’n syml i’w haddysgu ac yn hawdd eu dysgu. Nid oes angen hyfforddiant cymorth cyntaf ffurfiol arnoch i gyflwyno sesiynau effeithiol.
Sut i ddefnyddio Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf
Wrth i chi weithio drwy Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf, bydd eich dysgwyr yn dilyn chwe chymeriad y gellir uniaethu â nhw ac yn dysgu am gymorth cyntaf mewn sefyllfaoedd pob dydd realistig. Bydd plant hefyd yn dysgu am garedigrwydd, ymdopi a pheidio â chynhyrfu, yn ogystal â sut i gadw’n ddiogel wrth helpu. Mae pob modiwl yn cynnwys ffilmiau, ffotograffau, darluniau, gweithgareddau, cyflwyniadau PowerPoint a chwisiau i ategu eich sesiynau. Hefyd, mae modiwl sy’n cynnwys syniadau er mwyn i blant rannu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu ag eraill.
Llwybr dysgu yn y cartref
Rydym wedi creu canllawiau i addysgwyr ar sut i ddefnyddio’r wefan ar gyfer dysgu yn y cartref, gyda llwybrau dysgu a awgrymir ar gyfer dysgwyr oed cynradd
Canllawiau a chymorth i athrawon ac addysgwyr
I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf, lawrlwythwch y canllawiau i athrawon ac addysgwyr.
Cysylltiadau â’r cwricwlwm
Mae manylion llawn am sut mae gweithgareddau wedi’u mapio i’r cwricwla cynradd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i’w gweld yn y dogfennau canlynol er mwyn helpu i addysgu sgiliau cymorth cyntaf mewn ysgolion:
0.3mb
Canllawiau a Chymorth – Lloegr
0.3mb
Canllawiau a Chymorth – Yr Alban
0.3mb
Canllawiau a Chymorth – Gogledd Iwerddon
0.3mb
Canllawiau a Chymorth – Cymru
Dilyniant a awgrymir ar gyfer addysgwyr cynradd
Nod y ddogfen hon yw helpu athrawon ysgolion cynradd i drefnu cynnwys Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf ar draws grwpiau blwyddyn. Dull a awgrymir yw hwn – ar ôl i chi ymgyfarwyddo â’r pecyn cymorth, gallwch strwythuro gwersi ar sail anghenion eich dosbarth, eich ysgol a’ch cwricwlwm.
Fy ngrwpiau a gwerthuso
Defnyddiwch Fy Ngrwpiau i greu grwpiau a thracio cynnydd eich dysgwyr. Bydd Fy Ngrwpiau yn cadw cofnod o ganlyniadau cwisiau a hyder pobl ifanc i ddefnyddio sgiliau cymorth cyntaf. Pan fyddwch chi’n creu grŵp, bydd cod unigryw yn cael ei greu ar gyfer pob person ifanc. Wedyn, gallwch fonitro eu cynnydd heb orfod cofrestru unrhyw ddata personol. Edrychwch ar ein canllawiau yn yr Adran Addysgwyr!
0.3mb
Tystysgrif Gynradd
0.3mb
Cwis cynradd - cwestiynau ac atebion
Creu amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol
Bydd y ddogfen ganllawiau a gweithgareddau hon yn eich helpu i greu amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol. Dylech ei defnyddio wrth archwilio’r pynciau a’r cysyniadau yn yr adnodd hwn gyda phlant. Canllawiau addysgu ar greu amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol
0.6mb
Creu amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol
Lawrlwytho Creu amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol (DOCX)
0.2mb
Creu amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol
Lawrlwytho Creu amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol (PPTX)
Cwestiynau Cyffredin
Oes gennych chi gwestiwn? Mae’r atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin am Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf i'w gweld yma:
Mae’r amcanion dysgu ar draws Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf yn gysylltiedig â chwricwlwm holl wledydd y DU, gan gynnwys y canllawiau gorfodol ar gyfer addysg iechyd yn Lloegr.
Drwy gymryd rhan yng ngweithgareddau’r adnodd Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf, bydd plant yn:
- Deall beth yw cymorth cyntaf
- Dysgu am y Groes Goch
- Dysgu sgiliau cymorth cyntaf
- Dysgu sut i gael help yn ddiogel mewn argyfwng, gan gynnwys ffonio 999
- Teimlo’n hyderus i helpu rhywun sydd angen cymorth cyntaf
- Teimlo’n hyderus eu bod yn gallu helpu rhywun sydd angen cymorth cyntaf
- Ymarfer defnyddio sgiliau cymorth cyntaf
- Dysgu am fod yn garedig a helpu eraill
- Dysgu am sgiliau ymdopi
- Ymarfer sgiliau ymdopi
- Dysgu sut i ofalu amdanynt eu hunain ac eraill
- Dysgu sut i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel
- Ymarfer sut i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel
A. Mae’r adnoddau wedi’u strwythuro’n becyn cymorth ar-lein modiwlaidd er mwyn eu gwneud yn hawdd eu defnyddio, er mwyn i chi allu dewis a dethol cynnwys er gyfer cynllunio sesiynau sy’n addas i’ch grŵp chi. Mae’r modiwlau’n dilyn dull ‘dysgu ac ymarfer’, gyda chynnwys rhyngweithiol a gweithgareddau addysgu y gellir eu lawrlwytho er mwyn helpu pobl ifanc i ddatblygu dealltwriaeth ac yna roi cynnig ar yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu.
A. Nac oes. Nid oes angen i chi roi arddangosiadau. Mae’r adnoddau wedi’u dylunio i ddangos i chi a’ch dysgwyr sut i helpu person sy’n sâl neu wedi’i anafu, gan ddefnyddio iaith syml a delweddau neu ffilmiau ategol.
Gallwch roi arddangosiadau i ategu eich sesiynau os hoffech chi wneud hynny. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio manicin ar gyfer unrhyw gamau sy’n defnyddio grym, fel ergydion i’r cefn neu gywasgu’r frest. Rydym yn argymell mai dim ond i bobl ifanc oed ysgol uwchradd neu hŷn y dylid addysgu sut i gywasgu’r frest.
A. Nac oes. Efallai na fyddwch bob amser yn gallu cael gafael ar becyn cymorth cyntaf mewn argyfwng. Mae sawl ffordd wahanol y gallwch chi roi triniaeth cymorth cyntaf gan ddefnyddio eitemau pob dydd. Er enghraifft, defnyddiwch fag o bys wedi’u rhewi wedi’i lapio mewn lliain sychu llestri i’w roi ar anaf i’r pen, crys-t i roi pwysau ar glwyf sy’n gwaedu, neu ddŵr i oeri llosg.
A. Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich straeon cymorth cyntaf go iawn. Anfonwch e-bost i yourstory@redcross.org.uk gan gynnw
Sgiliau cymorth cyntaf
Dysgu ac ymarfer wyth sgil cymorth cyntaf gwahanol y gall plant ysgol gynradd eu defnyddio i helpu eraill.
Caredigrwydd ac ymdopi
Cyfle i ddysgu am garedigrwydd ac ymarfer sut i ymdopi a pheidio â chynhyrfu.
Diogelwch
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel wrth helpu eraill.
Rhannu
Cyfle i rannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill.