Rhannu a chofio
Rhoi caredigrwydd a helpu ar waith.
![Allanah is wrapped in a blanket and her friends are trying to warm her up with a hot drink. Mae Allanah wedi ei lapio mewn blanced ac mae ei ffrindiau yn ceisio ei chynhesu gyda diod boeth.](/media/zc1fcihz/webp-net-resizeimage-14.jpg)
Rhannu a chofio’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu
Cofiwch a rhannwch yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu drwy Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf, gan gynnwys sgiliau cymorth cyntaf, a’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu am helpu pobl eraill, cadw’n iach a chadw’n ddiogel.
Byddwch yn greadigol! Edrychwch ar y syniadau gweithgaredd isod. Gallwch chi wneud wal bosteri, dechrau ymgyrch caredigrwydd yn eich ysgol neu gymuned, dyfeisio drama, neu ysgrifennu llythyr at rywun a allai wneud gwahaniaeth neu ddysgu eraill.
Amcanion dysgu
- Creu rhywbeth er mwyn rhannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill
Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Ysgrifennu
Rhannwch yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu gan ddefnyddio eich sgiliau ysgrifennu.
Ysgrifennu drama
Ysgrifennwch ddrama sy’n cynnwys effaith y gwyliwr, defnyddio sgiliau cymorth cyntaf a dangos caredigrwydd. Dangoswch y ddrama yn eich ysgol, eich grŵp ieuenctid neu’ch cymuned er mwyn rhannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu.
Ysgrifennu llythyr
Ysgrifennwch lythyr at rywun rydych chi'n credu y gallai wneud gwahaniaeth yn eich ardal leol, fel eich Aelod o’r Senedd neu’ch Aelod Seneddol (AS). Gofynnwch beth y gall ei wneud er mwyn helpu i annog mwy o bobl i ddysgu sgiliau cymorth cyntaf a helpu eraill.
Ysgrifennu’n greadigol
Ewch ati i greu cân, cerdd neu rap am bynciau sy’n eich ysbrydoli chi i fod yn Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf. Gallech chi berfformio’r hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu neu ei argraffu neu ei bostio yn rhywle sy’n helpu i rannu eich neges.
Creu
Ewch ati i greu wal bosteri, llunio calendr neu ddechrau ymgyrch caredigrwydd yn eich ysgol.
Wal bosteri
Gweithiwch gyda’ch ffrindiau i greu wal bosteri sy’n cyfleu negeseuon am ddysgu sgiliau cymorth cyntaf, camu i mewn i helpu a chadw’n ddiogel.
![A person reassuring someone else. Person yn cysuro rhywun arall.](/media/ptubw4ly/brc_first_aid_icon__kindness-and-coping.png)
Calendr gweithredoedd caredig
Gallech chi greu calendr gweithredoedd caredig. Penderfynwch ar rywbeth y gallech chi ei wneud bob dydd am fis i wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun arall, ac ewch ati i ledaenu’r caredigrwydd.
Ymgyrch caredigrwydd
Cymerwch yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu am effaith y gwyliwr a helpu pobl eraill, ac ymgyrchwch dros ledaenu caredigrwydd a helpu pobl eraill. Tynnwch sylw at bwysigrwydd dysgu sgiliau cymorth cyntaf.
Addysgu
Rhannwch yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu drwy addysgu pobl eraill neu drwy gynnal trafodaeth mewn gwasanaeth.
Cynllunio grŵp cinio
Dechreuwch gynnal grŵp cinio Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf er mwyn dysgu ac ymarfer mwy am gymorth cyntaf, lles a helpu eraill.
Addysgu sgìl cymorth cyntaf
Addysgwch o leiaf un sgìl cymorth cyntaf i’ch teulu neu’ch ffrindiau. Gallech wylio’r ffilmiau cymorth cyntaf ac ymarfer drwy chwarae rôl. Wedyn lawrlwythwch ap cymorth cyntaf y Groes Goch Brydeinig.
![A teacher standing in front of a whiteboard. Athro yn sefyll o flaen bwrdd gwyn.](/media/cqflo3hg/brc_first_aid_icon_learning_objectives.png)
Hawl i holi
Sefydlwch banel ieuenctid yn ystod gwasanaeth neu amser tiwtora, gyda phob un yn trafod pwnc gwahanol o raglen Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf, e.e. helpu eraill, cymorth cyntaf, neu ddiogelwch a lles, a gofynnwch am gwestiynau gan y gynulleidfa er mwyn cynnal trafodaeth.
Adrannau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
![Raheem checks for breaths on his unresponsive friend Mark. Mae Raheem yn gwirio am anadliadau ar ei ffrind sy'n ddiymateb Mark.](/media/hcghlibg/unresonsive-breathing-step1-resized.jpg)
Sgiliau cymorth cyntaf
Dysgu ac ymarfer 17 o wahanol sgiliau cymorth cyntaf y gall myfyrwyr ysgol uwchradd eu defnyddio i helpu eraill.
![Finn has a rash on his face and is holding an auto injector. Joanna calls 999. Mae gan Finn frech ar ei wyneb ac mae'n dal awto-chwistrellydd. Mae Joanna yn ffonio 999.](/media/brrdhupq/herov2allergic350x200.jpg)
Adwaith alergaidd difrifol
Beth i’w wneud os bydd rhywun yn cael adwaith alergaidd difrifol
![Joanna reassures Finn after his allergic reaction. Mae Joanna yn cysuro Finn ar ôl ei adwaith alergaidd.](/media/wkyl5cmh/ai_08-7549-skillsize-1.jpg)
Helpu eraill
Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr a'r hyn sy’n cymell pobl i helpu
![Josh and his friends look happy after he has recovered from his asthma attack. Mae Josh a'i ffrindiau'n edrych yn hapus ar ôl iddo wella o'i bwl o asthma.](/media/11vf0zth/asthma-skillsize-2.jpg)
Diogelwch a lles
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.