Dysgu sgiliau cymorth cyntaf i blant rhwng 5 ac 11 oed
Croeso i Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf, lle byddwch chi’n dysgu sgiliau cymorth cyntaf pwysig.
Drwy’r adnodd hwn, byddwch chi’n cwrdd â chwe chymeriad wrth iddyn nhw ddefnyddio eu sgiliau cymorth cyntaf i helpu pobl eraill. Gallwch wylio ffilmiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau i ddysgu ac ymarfer sgiliau cymorth cyntaf.
Byddwch hefyd yn dysgu am garedigrwydd, sut i ymdopi a pheidio â chynhyrfu, a sut i gadw eich hun yn ddiogel. Yn dilyn hynny bydd awgrymiadau ar gyfer rhannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill.
Nawr, dewch i ddysgu am y Groes Goch Brydeinig a chwrdd â’r cymeriadau drwy’r gweithgareddau isod.
Amcanion dysgu
- Trafod cysyniadau cymorth cyntaf a helpu eraill
![A teacher standing in front of a whiteboard. Athro yn sefyll o flaen bwrdd gwyn.](/media/cqflo3hg/brc_first_aid_icon_learning_objectives.png)
Cyflwyniad i’r Groes Goch
Mae’r Groes Goch yn helpu pobl yn y DU a ledled y byd mewn llawer o wahanol ffyrdd. Un o’r ffyrdd hyn yw addysgu sgiliau cymorth cyntaf i bobl a lledaenu caredigrwydd.
Gweithgaredd dysgu
Helpwch y plant i ddysgu mwy am waith y Groes Goch.
2.3mb
Cyflwyniad i’r Groes Goch
Cyflwyniad Powe-rPoint gyda nodiadau dysgu
Cwrdd â’r cymeriadau
Dywedwch helo wrth y cymeriadau a fydd yn eich helpu i ddysgu sgiliau cymorth cyntaf.
Nawr eich bod chi wedi cwrdd â’r cymeriadau –
- Beth yw eu hoff bethau a'u cas bethau?
- Oes unrhyw rai ohonyn nhw’n hoffi neu’n gwneud pethau tebyg i chi?
- Allech chi wneud ffilm neu stori byd bach amdanoch chi eich hun?
Gweithgaredd dysgu
Cyflwynwch y cymeriadau y bydd y plant yn cwrdd â nhw yn Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf.
0.6mb
Tystysgrifau ysgolion cynradd
Gallwch chi lwytho tystysgrif cyfranogiad i lawr i gydnabod eich pobl ifanc a gymerodd ran yn Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf.
0.1mb
Tystysgrifau ysgolion cynradd
Parhau i ddysgu
Nawr mae’n amser dechrau dysgu sgiliau cymorth cyntaf. Gallwch hefyd ddysgu am garedigrwydd ac ymdopi, a diogelwch.
![Dele checks to see if his grandfather can respond. Mae Dele yn gwirio i weld a all ei dad-cu ymateb.](/media/mpagpyos/219a1968.jpg)
Sgiliau cymorth cyntaf i blant
Dysgu ac ymarfer wyth sgil cymorth cyntaf gwahanol y gall plant ysgol gynradd eu defnyddio i helpu eraill.
![Jonjo and Ekam talk to an adult. Jonjo a Ekam yn siarad i oedolyn.](/media/nslpmtan/219a1531-jpg-safety.jpg)
Diogelwch
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel wrth helpu eraill.
![Jonjo and his father reassure Ekam. Mae Jonjo a'i dad yn cysuro Ekam.](/media/g3sbysoj/copy-of-219a5822.jpg)
Caredigrwydd ac ymdopi
Cyfle i ddysgu am garedigrwydd ac ymarfer sut i ymdopi a pheidio â chynhyrfu.
![Liya and her father talking in a park. Liya a'i thad yn siarad yn y parc.](/media/a1dp3hci/219a5908.jpg)
Rhannu
Cyfle i rannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill.