Kelly rushes to her nan who has collapsed in the garden. Mae Kelly yn rhuthro at ei nain sydd wedi cwympo yn yr ardd.

Pa mor hyderus ydych chi’n teimlo ynglŷn â gallu ymdopi mewn sefyllfa anodd?

1
Ddim yn hyderus o gwbl
2
3
4
5
6
7
8
9
10
Yn gwbl hyderus

Sgiliau ymdopi

Meddyliwch am y gair ‘ymdopi’, beth ydych chi’n meddwl mae’n ei olygu? Ysgrifennwch eich diffiniad o ymdopi.

Nawr meddyliwch am un peth y gallai rhywun ei wneud i ymdopi pe bai mewn sefyllfa a allai fod yn heriol iddo.  Meddyliwch am rywbeth y gallent ei wneud ar unwaith i helpu eu hunain i ymdopi mewn sefyllfa lle’r oedd angen cymorth cyntaf ar rywun, e.e. cymryd anadl ddofn. 

Yn awr, meddyliwch am yr hyn y gallai rhywun ei wneud i ymdopi yn y tymor hwy e.e. gwrando ar gerddoriaeth neu dreulio amser yn gwneud eu hoff hobi neu gyda ffrindiau.

Yn awr, edrychwch ar y diffiniad o ymdopi mewn geiriadur: rhywbeth fel “delio’n effeithiol â rhywbeth anodd.” Dyma un diffiniad o ymdopi. A yw’n cyd-fynd â’ch diffiniad?

A yw’n ymdrin â’r hyn roeddech chi’n ei feddwl? A oes digon o fanylion? A oes unrhyw beth y byddech chi’n ei newid neu’n ei ychwanegu? A oes modd ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd?

Pryd allai rhywun ddefnyddio ei sgiliau ymdopi? Pa fath o sefyllfaoedd?

Rhowch gynnig ar y dechneg anadlu hon o’r enw “anadlu swigod”

Caewch eich llygaid a chanolbwyntiwch ar eich anadlu. Cymerwch anadl ddofn i mewn a’i ryddhau allan o’ch ceg yn araf, gan ddychmygu eich bod yn chwythu i mewn i swigen fawr sy’n cynyddu o ran maint

Anadlwch i mewn ac allan eto, gan chwythu’r swigen hyd yn oed yn fwy. Daliwch ati i wneud hyn nes byddwch chi’n teimlo’n dawelach

Sut oedd hynny’n gwneud i chi deimlo? Pryd allai rhywun ddefnyddio’r dechneg anadlu hon yn ei fywyd?

Kelly rushes to her nan who has collapsed in the garden. Mae Kelly yn rhuthro at ei nain sydd wedi cwympo yn yr ardd.

Pa mor hyderus ydych chi’n teimlo ynglŷn â gallu ymdopi mewn sefyllfa anodd?

1
Ddim yn hyderus o gwbl
2
3
4
5
6
7
8
9
10
Yn gwbl hyderus

Rwy’n teimlo’n hyderus am ymdopi mewn sefyllfa anodd

Gweithredu: mewn sefyllfa anodd, cymerwch foment i anadlu er mwyn i chi allu ymdopi â'r emosiynau y gallech fod yn eu teimlo

Start Over