Rhwystr: Efallai y byddant yn gwneud rhywbeth o’i le.

Yr Ateb: Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n annhebygol iawn y gallai rhywun wneud y sefyllfa’n waeth. Cyn belled â’u bod yn ddiogel, mae bob amser yn well ceisio helpu.

Rhwystr: Mae'n bosibl y byddant yn cael eu herlyn am iawndal.

Pan fydd rhywun yn gweithredu’n ddidwyll i geisio helpu i achub bywyd rhywun neu i atal anaf pellach, ychydig iawn o risg sydd y bydd yn cael ei siwio.

Rhwystr: Gallai’r sefyllfa fod yn beryglus, neu’n dric.

Yr Ateb: Ni ddylent beryglu eu diogelwch eu hunain. Os nad ydynt yn teimlo’n ddiogel, gallent ffonio 999 i gael help mewn argyfwng.