CJ checks to see if the unresponsive person can respond. Mae CJ yn gwirio i weld a all y person sy'n ddiymateb yn gallu ymateb.

Pa mor hyderus ydych chi’n teimlo ynglŷn â helpu rhywun sy’n ddiymateb a ddim yn anadlu pan fydd AED ar gael?

0
Ddim yn hyderus o gwbl
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
Yn gwbl hyderus
CJ is smiling. Mae CJ yn gwenu.

Mae CJ newydd orffen sesiwn codi pwysau yn y gampfa pan mae’n sylwi bod rhywun wedi cwympo ac yn ddiymateb. Mae CJ yn camu i’r adwy i helpu, gan ofyn am gymorth gan ei chwaer.

CJ is talking to his sister who is smiling. Mae CJ yn siarad â'i chwaer sy'n gwenu.

Mae’r gampfa fel ail-gartref i mi. Roeddwn i wrthi’n ymarfer ar gyfer y tymor athletau newydd ac roeddwn i newydd orffen sesiwn codi pwysau eithaf caled.

CJ is talking to his sister who is laughing.  Mae CJ yn siarad â'i chwaer sy'n chwerthin.

Roedd fy chwaer wedi dod draw i nofio ac roedden ni’n bwriadu sbwylio ein hunain gyda theisen ar ôl ein holl ymdrechion.

CJ leans from his wheelchair to help someone who is lying on the floor. Mae CJ yn gwyro o'i gadair olwyn i helpu rhywun sy'n gorwedd ar y llawr.

Roedden ni ar ein ffordd draw i’r caffi, pan wnes i sylwi drwy gornel fy llygad bod dyn hŷn wedi syrthio i’r llawr yn sydyn. Bu’n rhaid i mi edrych ddwywaith. Doedd o ddim yn edrych yn dda a doedd o ddim yn symud.

CJ checks to see if the unresponsive person can respond. Mae CJ yn gwirio i weld a all y person sy'n ddiymateb yn gallu ymateb.

Doedd hi ddim yn ymddangos bod neb arall yn gwneud unrhyw beth a doedd neb wrth ddesg y dderbynfa. Roeddwn i newydd wneud cwrs cymorth cyntaf fel rhan o fy nghwrs chwaraeon yn y coleg ac roeddwn i’n gwybod bod angen i rywun wneud yn siŵr ei fod e’n iawn.

CJ checks to see if the unresponsive person can respond. Mae CJ yn gwirio i weld a all y person sy'n ddiymateb yn gallu ymateb.

Fe wnes i ysgwyd ysgwyddau’r dyn a dechrau gweiddi, “Helo, helo, allwch chi fy nghlywed i?” Wnaeth y dyn ddim ymateb o gwbl.

CJ checks to see if the unresponsive person can respond. Mae CJ yn gwirio i weld a all y person sy'n ddiymateb yn gallu ymateb.

Roedd angen i mi edrych i weld a oedd yn anadlu. Gwyrais ei ben yn ôl ac edrych i weld a oedd yn anadlu. Roedd ei frest yn llonydd. Sylweddolais fod hon yn sefyllfa wael iawn iddo.

Joy calls 999, while CJ gives chest compressions. Mae Joy yn galw 999, tra bod CJ yn rhoi cywasgiadau i'r frest.

Gan geisio peidio â mynd i banig, fe wnes i weiddi ar Joy i ffonio 999 a gofyn am ambiwlans. Roedd yn rhaid gwneud yn siŵr bod help ar y ffordd cyn gynted â phosibl.

CJ gives the unresponsive person chest compressions. Mae CJ yn rhoi cywasgiadau ar y frest i'r person sy'n ddiymateb.

Dechreuais wthio i lawr yn galed ar ganol brest y dyn.

Joy rushes over to CJ and the unresponsive person with an AED. Mae Joy yn rhuthro draw at CJ a'r person sy'n ddiymateb gyda'r AED.

Gofynnais i Joy chwilio am Ddifibriliwr. Mae rhai ar gael fel arfer mewn campfeydd a mannau cyhoeddus a gall unrhyw un eu defnyddio. Cael gafael ar un fyddai’n rhoi’r cyfle gorau i ni ei gadw i fynd nes byddai’r ambiwlans yn cyrraedd.

Joy gestures to CJ to stay back while she uses the AED. Mae Joy yn ystumio CJ i aros yn ôl tra bydd hi'n defnyddio'r AED.

Doedd Joy ddim yn siŵr beth i’w wneud, ond dywedais wrthi am agor casyn y Diffibiliwr Allanol Awtomatig. Mae AEDs yn dweud wrthych chi beth i’w wneud. Roedd angen i ni ddilyn ei gyfarwyddiadau. Arhoson ni gyda’r dyn nes i’r staff ddod i helpu. Roedd gwthio ar ei frest i lawr yn waith caled iawn ond yn werth yr ymdrech.

Joy gestures to CJ to stay back while she uses the AED. Mae Joy yn ystumio CJ i aros yn ôl tra bydd hi'n defnyddio'r AED.

Roedd yn sefyllfa frawychus iawn ond rydw i’n eithaf balch o’r ffordd y gwnes i ymateb, gan beidio â chynhyrfu a chofio’r hyn roeddwn i wedi’i ddysgu.

Camodd CJ i mewn a helpu rhywun mewn sefyllfa ddifrifol iawn. Sut wnaethon nhw ymateb pan welsant rywun a oedd yn ddiymateb a ddim yn anadlu?

Peiriannau sy’n gallu rhoi sioc i’r galon yn ôl i rythm normal yw diffibrilwyr allanol awtomatig (AEDs). Pwy sy’n cael defnyddio AED?

Os nad yw rhywun yn ymateb nac yn anadlu, beth yw’r cam allweddol y gallwn ni ei gymryd wrth aros i help gyrraedd?

Gwyliwch yr animeiddiad hwn i weld sut mae’r cam gweithredu allweddol yn gweithio Rydyn ni wrthi’n gweithio ar wneud y fideo hwn yn addas i ddysgwyr Cymraeg. Yn y cyfamser, mae dolen i’r trawsgrifiad fideo yn Gymraeg o dan y fideo.

CJ checks to see if the unresponsive person can respond. Mae CJ yn gwirio i weld a all y person sy'n ddiymateb yn gallu ymateb.

Pa mor hyderus ydych chi’n teimlo ynglŷn â helpu rhywun sy’n ddiymateb a ddim yn anadlu pan fydd AED ar gael?

0
Ddim yn hyderus o gwbl
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
Yn gwbl hyderus
CJ and Joy use an AED on a person who is unresponsive. Mae CJ a Joy yn defnyddio AED ar berson ddiymateb.

Cymryd camau: Os bydd rhywun yn ddiymateb a ddim yn anadlu a bod yna Ddiffibiliwr Allanol Awtomatig (AED) ar gael, cywasgwch y frest. Agorwch y Diffibriliwr a dilynwch y cyfarwyddiadau.

Cychwyn eto