A person checks for breaths on someone who is unresponsive and not breathing. Mae person yn gwirio am anadl rywun sy'n ddiymateb nac yn anadlu.

Pam mae cymorth cyntaf yn bwysig?

Ydych chi’n meddwl y dylai pawb ddysgu cymorth cyntaf? Fyddech chi’n teimlo’n ddigon hyderus i helpu rhywun mewn argyfwng?

Ble fyddech chi’n gosod eich hun ar y llinell?

Darllenwch y brawddegau ar y sleidiau nesaf. Meddyliwch i ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â nhw.

“Byddwn i’n gwybod sut mae helpu rhywun mewn argyfwng cymorth cyntaf.”

Ydych chi’n cytuno neu'n anghytuno? Ble fyddech chi’n gosod eich hun ar y llinell?

“Mae hi’n bwysig gwybod cymorth cyntaf.”

Ydych chi’n cytuno neu'n anghytuno? Ble fyddech chi’n gosod eich hun ar y llinell?

“Dylai pobl bob amser gael yr help sydd ei angen arnyn nhw mewn sefyllfa cymorth cyntaf.”

Ydych chi’n cytuno neu'n anghytuno? Ble fyddech chi’n gosod eich hun ar y llinell?

“Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i helpu pobl eraill.”

Ydych chi’n cytuno neu'n anghytuno? Ble fyddech chi’n gosod eich hun ar y llinell?

“Dylech bob amser wneud yn siŵr eich bod chi’n ddiogel cyn helpu pobl eraill.”

Ydych chi’n cytuno neu'n anghytuno? Ble fyddech chi’n gosod eich hun ar y llinell?

Black outline of a person. Amlinell ddu o berson.

Rhoi cymorth cyntaf

Ar ddarn o bapur, tynnwch amlinelliad o berson fel hwn

Cam 1. Y tu mewn i’ch amlinelliad o berson, ysgrifennwch mewn beiro neu bensil lliw rai o’r mathau o anafiadau neu salwch sy’n gallu digwydd.

Black outline of a person. Amlinell ddu o berson.

Er enghraifft, lwmp ar y pen neu bwl o asthma.

Cam 2. Gan ddefnyddio beiro neu bensil lliw gwahanol, tynnwch linell o’r anaf neu’r salwch i’r tu allan i’r person ac ysgrifennwch neu tynnwch lun o ba gymorth cyntaf byddai’n gallu ei helpu.

Black outline of a person. Amlinell ddu o berson.

Er enghraifft, rhoi rhywbeth oer ar chwydd ar y pen. Os nad ydych chi’n siŵr, cliciwch ar y sgiliau cymorth cyntaf isod i gael gwybod sut mae helpu.

Cam 3. Gan ddefnyddio lliw gwahanol, ysgrifennwch neu tynnwch lun ar ochrau’r papur beth allai rhywun ei ddweud neu ei wneud i helpu’r person i deimlo’n well.

Black outline of a person. Amlinell ddu o berson.

Er enghraifft, bydden nhw’n gallu dweud “Anadlwch yn araf.”