Trawsgrifiad fideo pwl o asthma

Jonjo: Hei. Beth wyt ti’n ei wneud?

Ekam: Wnes i ddim dy glywed di’n dod i mewn.

Jonjo: Agorodd dy fam y drws i mi. Hei, doeddwn i ddim yn gwybod bod gen ti atig.

Ekam: O, roedd fy nhad yn gwneud rhywbeth i fyny yno bore ’ma. Rwy'n credu ei fod wedi bod yn clirio neu rywbeth.

Jonjo: Ga i weld?

Ekam: Hmmm wn i ddim. Dydw i ddim yn credu fy mod i’n cael mynd i fyny yno.

Jonjo: Yn gyflym iawn, wedyn fe wnawn ni ddod yn ôl i lawr yn syth.

Ekam: Shhhhh bydd Mam yn clywed.

Jonjo: Mae’n ddrwg gen i. Y llwch yw’r broblem.

Ekam: Hei cŵl, fy hen deganau! Wyt ti’n iawn?

Jonjo: Alla i... ddim... anadlu!

Ekam: Mae’n iawn. Mae angen i ni dy gael di allan o’r llwch yma. Mae'n mynd i fod yn iawn. Mam! Mam! Mae’n iawn – anadla i mewn ac allan. Fe fyddi di'n iawn. Mae’n mynd i fod yn iawn. Mam! Mam! Mae’n iawn, fe fyddi di'n iawn. Rwyt ti’n iawn. Anadla i mewn ac allan. Fe fyddi di’n iawn. Mae’n mynd i fod yn iawn. Anadla i mewn ac allan.

Mam: Beth ydych chi’n ei wneud?

Ekam: Mam, mae Jonjo’n cael pwl o asthma.

Mam: Wyt ti am i mi ffonio dy rieni?

Jonjo: Mae’n iawn. Rwy’n teimlo’n well o lawer.

Mam: Da iawn.

Ekam: Os bydd rhywun yn cael pwl o asthma, dywedwch wrtho am eistedd a gorffwys. Dywedwch wrtho am beidio â phoeni, a’ch bod yn mynd i’w helpu. Helpwch yr unigolyn i ddefnyddio ei anadlydd. Ewch i ddweud wrth oedolyn. Os bydd rhywun yn cael pwl o asthma, cofiwch ei helpu i ddefnyddio ei anadlydd.