Addysgu sgiliau cymorth cyntaf i blant

A hand holding a hot drink

Dechrau arni gyda Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf

P’un a ydych chi wedi addysgu sgiliau cymorth cyntaf o’r blaen neu’n gwbl newydd iddo, bydd Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf yn eich helpu i gyflwyno sesiynau dysgu cymorth cyntaf yn hyderus yn eich ysgol neu’ch grŵp ieuenctid. Drwy weithgareddau hawdd eu dilyn ac amrywiaeth o ddeunyddiau ategol diddorol a thrawiadol, mae’r adnoddau’n syml i’w haddysgu ac yn hawdd eu dysgu. Nid oes angen hyfforddiant cymorth cyntaf ffurfiol arnoch i gyflwyno sesiynau effeithiol.

Sut i ddefnyddio Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf 

Wrth i chi weithio drwy Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf, bydd eich dysgwyr yn dilyn chwe chymeriad y gellir uniaethu â nhw ac yn dysgu am gymorth cyntaf mewn sefyllfaoedd pob dydd realistig. Bydd plant hefyd yn dysgu am garedigrwydd, ymdopi a pheidio â chynhyrfu, yn ogystal â sut i gadw’n ddiogel wrth helpu. Mae pob modiwl yn cynnwys ffilmiau, ffotograffau, darluniau, gweithgareddau, cyflwyniadau PowerPoint a chwisiau i ategu eich sesiynau. Hefyd, mae modiwl sy’n cynnwys syniadau er mwyn i blant rannu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu ag eraill. 

Canllawiau a chymorth i athrawon ac addysgwyr

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf, lawrlwythwch y canllawiau i athrawon ac addysgwyr.

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Mae manylion llawn am sut mae gweithgareddau wedi’u mapio i’r cwricwla cynradd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i’w gweld yn y dogfennau canlynol er mwyn helpu i addysgu sgiliau cymorth cyntaf mewn ysgolion:

0.3mb

Canllawiau a Chymorth – Lloegr

Download Canllawiau a Chymorth – Lloegr (DOCX)

0.3mb

Canllawiau a Chymorth – Yr Alban

Download Canllawiau a Chymorth – Yr Alban (DOCX)

0.3mb

Canllawiau a Chymorth – Gogledd Iwerddon

Download Canllawiau a Chymorth – Gogledd Iwerddon (DOCX)

0.3mb

Canllawiau a Chymorth – Cymru

Download Canllawiau a Chymorth – Cymru (DOCX)

Dilyniant a awgrymir ar gyfer addysgwyr cynradd

Nod y ddogfen hon yw helpu athrawon ysgolion cynradd i drefnu cynnwys Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf ar draws grwpiau blwyddyn. Dull a awgrymir yw hwn – ar ôl i chi ymgyfarwyddo â’r pecyn cymorth, gallwch strwythuro gwersi ar sail anghenion eich dosbarth, eich ysgol a’ch cwricwlwm.

Fy ngrwpiau a gwerthuso

Defnyddiwch Fy Ngrwpiau i greu grwpiau a thracio cynnydd eich dysgwyr. Bydd Fy Ngrwpiau yn cadw cofnod o ganlyniadau cwisiau a hyder pobl ifanc i ddefnyddio sgiliau cymorth cyntaf. Pan fyddwch chi’n creu grŵp, bydd cod unigryw yn cael ei greu ar gyfer pob person ifanc. Wedyn, gallwch fonitro eu cynnydd heb orfod cofrestru unrhyw ddata personol. Edrychwch ar ein canllawiau yn yr Adran Addysgwyr!

0.1mb

Tystysgrif ysgolion cynradd

Lawrlwytho Tystysgrif ysgolion cynradd

Download Tystysgrif ysgolion cynradd (PDF)

Creu amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol

Bydd y ddogfen ganllawiau a gweithgareddau hon yn eich helpu i greu amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol. Dylech ei defnyddio wrth archwilio’r pynciau a’r cysyniadau yn yr adnodd hwn gyda phlant. Canllawiau addysgu ar greu amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol

0.6mb

Lawrlwytho Creu amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol (DOCX)

Download Lawrlwytho Creu amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol (DOCX) (DOCX)

0.2mb

Creu amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol – cyflwyniad PowerPoint

Download Creu amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a chefnogol – cyflwyniad PowerPoint (PPTX)

Cwestiynau Cyffredin

Oes gennych chi gwestiwn? Mae’r atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffred0in am Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf i'w gweld yma:

FAQs

Dele checks to see if his grandfather can respond. Mae Dele yn gwirio i weld a all ei dad-cu ymateb.

Sgiliau cymorth cyntaf i blant

Dysgu ac ymarfer wyth sgil cymorth cyntaf gwahanol y gall plant ysgol gynradd eu defnyddio i helpu eraill.

Jonjo and his father reassure Ekam. Mae Jonjo a'i dad yn cysuro Ekam.

Caredigrwydd ac ymdopi

Cyfle i ddysgu am garedigrwydd ac ymarfer sut i ymdopi a pheidio â chynhyrfu.

Jonjo and Ekam talk to an adult. Jonjo a Ekam yn siarad i oedolyn.

Diogelwch

Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel wrth helpu eraill.

Liya and her father talking in a park. Liya a'i thad yn siarad yn y parc.

Rhannu

Cyfle i rannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill.