Trawsgrifiad ffilm gwaedu’n drwm

“Dyma oedd y ffordd gyflymaf o gyrraedd adref. Roedden ni bob amser yn dringo dros y rheiliau yng nghefn yr ystâd.

Doedd un weiren finiog newydd ddim yn mynd i’n rhwystro ni...

Rydw i wedi neidio dros y rheilen ganwaith o’r blaen: camu ar y wal uchel, defnyddio’r postyn i wthio fy hun i fyny a throsodd, ac yna gollwng fy hun i lawr ar yr ochr arall... Hawdd...

Mae’n bosibl fy mod i’n dangos fy hun ychydig bach gormod gan fod Hayley yno... Ond, fe aeth pethau o chwith.

Roeddwn i’n wyliadwrus o le roeddwn i’n rhoi fy nwylo, er mwyn osgoi’r weiren finiog, ond llithrodd fy nhroed oddi ar y postyn, a rhoddais fy mraich allan i atal fy hun rhag cwympo ...

Teimlais boen difrifol yn fy mraich, roeddwn yn cael trafferth cael fy ngwynt ... rydw i’n cofio gweld gwaed ym mhobman, yn rhedeg i lawr fy mraich, yn diferu oddi ar fy mhenelin. Roeddwn i’n methu ei stopio.

Doeddwn i erioed wedi gweld cymaint o waed. Roeddwn i’n gorfod edrych arno.

Roeddwn i mor lwcus bod Hayley yno gyda fi – mae hi’n glyfrach na fi.

Rhoddodd ei thop newydd i mi, a dweud wrthyf am bwyso ar y briw, yn galed. Mae ei thop wedi’i ddifetha’n llwyr ... ond hebddo, byddwn i wedi colli llawer mwy o waed...

Roeddwn i’n eistedd yno yn erbyn y postyn, yn teimlo’n wan ac yn benysgafn. Arhosodd Hayley gyda fi nes i’r ambiwlans gyrraedd – mwy na thebyg, dim ond 10 munud gymerodd hi i'r ambiwlans gyrraedd – ond i fi, roedd yn teimlo fel oriau.”

Aberthodd Hayley ei thop newydd i fy helpu i; a fyddech chi’n gwneud yr un peth i un o’ch ffrindiau chi?