Trawsgrifiad ffilm llosgiadau - eilaidd

“Roedd hi’n ddiwrnod perffaith am farbeciw. Kim sydd â’r ardd orau felly rydyn ni fel arfer yn mynd i fan’no ar benwythnosau. Mae ei rhieni’n gadael i ni wneud hynny. 
Roedd gennym ni bopeth ar gyfer y pnawn - rhestrau chwarae cerddoriaeth, gemau, llwyth o fwyd, ond roedd y golosg yn cymryd amser hir i boethi. Roedden ni’n sefyll wrth y barbeciw, bron â llwgu. 
Des i ddod o hyd i hylif tanio yn y sied a dwedodd pawb: ‘Da iawn Sam, bydd hwnnw’n gwneud iddo danio...’ 
Wnes i ei chwistrellu ar y tân ac aeth ar hyd fy nwylo. Wnes i ddim meddwl am y peth ar y pryd ac wrth i’r tân dyfu, roeddwn i’n teimlo’n falch ohonof fy hun... 
Y peth nesaf, roedd fy nwylo’n llosgi – roedden nhw ar dân. Dechreuodd y merched 
sgrechian... ac yna fe wnaeth rhywun ddiffodd y tân. 
Doedd dim modd disgrifio’r boen – roeddwn i’n wan. 
Roeddwn i mewn panig, a phawb arall hefyd. Heblaw Joe.... Gafaelodd o yn y bibell ddŵr yn yr ardd a rhoi dŵr oer dros fy nwylo am amser hir. Roeddwn i’n crio drwy’r amser, roedd y boen yn ofnadwy. 
Yna, gofynnodd o i Tash nôl bagiau plastig o’r gegin, a rhoi rhai ar bob llaw - doeddwn i ddim yn deall pam, ond doeddwn i ddim yn mynd i ddadlau... Roeddwn i’n teimlo fel ffŵl yn barod. 
Roedd golwg ar fy nwylo – roedden nhw’n goch ac yn hyll, allwn i ddim edrych arnyn nhw. Maen nhw wedi gwella ychydig nawr, ond mae rhai creithiau o hyd. 
Yn ddiweddarach, cefais wybod fod y ffaith fod Joe wedi oeri’r llosgiadau’n sydyn wedi gwneud byd o wahaniaeth. Rydw i’n ddiolchgar iawn iddo. Gallai pethau fod wedi bod yn llawer gwaeth”. 

Yn eich barn chi, pam wnaeth Joe gamu ymlaen i fy helpu i? Ydych chi’n meddwl y byddech chi’n gwneud yr un peth?