Addysgu cymorth cyntaf sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm - yn Gymraeg
Bob blwyddyn, mae’r Groes Goch Brydeinig yn helpu miloedd o bobl a chymunedau i ddysgu sgiliau cymorth cyntaf sy’n achub bywydau. Rydyn ni wedi addasu ein cynllun Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf yn unol â chwricwlwm Cymru. Nawr, gallwch addysgu cymorth cyntaf yn Gymraeg!
Mae cynnwys dysgu cymorth cyntaf Cymraeg ar gael i ddysgwyr cynradd ac uwchradd. Yn ogystal â’r sgiliau cymorth cyntaf craidd eu hunain, rydyn ni’n cynnig sgiliau allweddol eraill (sgiliau meddal) sy’n grymuso dysgwyr i helpu mewn argyfwng. Er enghraifft, sut i ddangos caredigrwydd wrth helpu eraill, a sut i flaenoriaethu diogelwch a lles.
Sut i ddefnyddio Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf yn Gymraeg
Sut i gael ein hadnoddau cymorth cyntaf yn Gymraeg
I ddefnyddio’r adnoddau Cymraeg, cliciwch ar y tab cynradd neu’r tab uwchradd yn y ddewislen uchaf. Mae togl iaith yn y gornel uchaf ar y dde ar y ddwy dudalen. Cliciwch ‘Cymraeg’ i newid y cynnwys i’r Gymraeg. Os byddwch chi’n dewis gweld y cynnwys yn Gymraeg, gallwch ddefnyddio’r gwymplen i weld pa dudalennau ac adnoddau sydd wedi cael eu cyfieithu.
Gallwch hefyd glicio’n uniongyrchol ar y dolenni isod o dan yr adran ‘Dechrau addysgu cymorth cyntaf’ yn Gymraeg.
Sut i ddefnyddio'r bar chwilio
Rydyn ni wedi dylunio'r swyddogaeth chwilio i ddangos canlyniadau yn seiliedig ar yr iaith rydych wedi'i gosod ar gyfer y safle ar hyn o bryd. Os ydych chi wedi newid y togl i’r Gymraeg, yna dim ond canlyniadau Cymraeg y bydd y bar chwilio yn ei ddarparu. Os yw’r togl wedi’i osod ar gyfer y Saesneg, bydd canlyniadau’r bar chwilio yn Saesneg.
Felly, os ydych chi am ddefnyddio’r bar chwilio i ddod o hyd i adnoddau Cymraeg ar y safle, gwnewch yn siŵr eich bod ar dudalen sgiliau cymorth cyntaf lle mae’r togl wedi’i osod ar gyfer y Gymraeg.
Dechrau addysgu cymorth cyntaf yn Gymraeg (Cynradd)
Dewiswch rhwng sgiliau cymorth cyntaf craidd neu sgiliau meddal fel caredigrwydd a diogelwch.
- Sgiliau cymorth cyntaf: Dysgu ac ymarfer wyth sgil cymorth cyntaf gwahanol y gall plant ysgol gynradd eu defnyddio i helpu eraill.
- Caredigrwydd ac ymdopi: Cyfle i ddysgu am garedigrwydd ac ymarfer sut i ymdopi a pheidio â chynhyrfu.
- Diogelwch: Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel wrth helpu eraill.
- Rhannu: Cyfle i rannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill.
Dechrau addysgu cymorth cyntaf yn Gymraeg (Uwchradd)
Dewiswch rhwng sgiliau cymorth cyntaf craidd neu sgiliau meddal fel diogelwch a helpu pobl eraill.
- Sgiliau cymorth cyntaf: Dysgu ac ymarfer 17 o wahanol sgiliau cymorth cyntaf y gall myfyrwyr ysgol uwchradd eu defnyddio i helpu eraill.
- Helpu eraill: Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr a'r hyn sy’n cymell pobl i helpu.
- Diogelwch a lles: Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.
- Rhannu a chofio: Cyfle i rannu’r pethau rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill, a chofio’r pethau rydych chi wedi’i ddysgu.