Trawsgrifiad fideo ‘Cysuro eraill’ Ekam

Helo, Ekam ydw i. Mae cysuro rhywun sydd wedi cynhyrfu yn bwysig iawn. Mae’n helpu i gadw pobl yn dawel, yn enwedig os ydynt yn teimlo panig, sy’n gallu gwneud pethau’n waeth. Gall eu cysuro a siarad yn dawel wneud gwahaniaeth mawr, hyd yn oed os ydych chi’n dal i ofyn am help gan oedolyn neu gan ambiwlans. Felly byddwch yn garedig, pwyllog a chadwch yn ddiogel!