Trawsgrifiad fideo ‘Cadw’n ddigynnwrf’ gan Jonjo

“Helo, fi, Jonjo, sydd yma. Pan fydda i wedi cynhyrfu, mae ymarfer anadlu rydw i’n ei ddefnyddio – sy’n cael ei alw’n ‘anadlu gyda lliw’. Mae’n fy helpu i deimlo’n well, yn dawelach fy meddwl ac yn gallu gwneud yr hyn sydd angen i mi ei wneud. Yr hyn rydw i’n ei wneud yw, rydw i’n dychmygu lliw tawel fel glas. Wrth i mi anadlu i mewn, rydw i’n dychmygu’r lliw hwnnw ac yna wrth i mi anadlu allan, rydw i’n dychmygu lliw drwg neu negatif, fel llwyd – rydw i’n dychmygu anadlu i mewn gyda’r da ac allan gyda’r drwg. Mae’n gwneud i mi deimlo’n dawel ac yn barod. Peidiwch â chynhyrfu!”