Trawsgrifiad fideo ‘Bod yn garedig’ Georgia

“Helo, Georgia ydw i. Mae’n hawdd iawn mynd ar goll yn ein meddyliau a’n teimladau ein hunain ac anghofio sut gallai pobl eraill fod yn teimlo. Nid yw caredigrwydd yn costio o gwbl ac mae’n gwneud cymaint o les! Drwy annog a chefnogi eraill i roi cynnig ar rywbeth newydd neu i ymdopi â chyfnodau anodd, gallwn deimlo’n fwy diogel ac yn hapusach gyda’n gilydd. Byddwch yn garedig a chadwch yn ddiogel!”