Rhannu

Gwnewch y byd yn lle mwy caredig a diogel.

Share symbol. Symbol rhannu.

Rhannwch yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill

Nawr eich bod chi wedi dysgu sgiliau cymorth cyntaf, ac wedi dysgu mwy am garedigrwydd ac ymdopi, a diogelwch, dyma rai syniadau ar gyfer rhannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu.

Gallech chi greu drama, gwneud poster, ysgrifennu llythyr, addysgu pobl eraill, creu calendr gweithredoedd caredig neu wneud rhywfaint o waith ysgrifennu creadigol.  Eich dewis chi yw sut i rannu!

Amcanion dysgu

  • Creu rhywbeth er mwyn rhannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill

Ewch ati i ysgrifennu

Defnyddiwch eich sgiliau ysgrifennu i rannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill. Gallech chi greu drama, llythyr, cân, cerdd neu stori.

Pen and paper. Pen a phapur.

Ysgrifennwch ddrama

Ysgrifennwch ddrama sy’n cynnwys sgìl cymorth cyntaf a gweithred garedig. Defnyddiwch y cardiau “sut i helpu” yn yr adran sgiliau cymorth cyntaf i arwain eich camau cymorth cyntaf.

Sgiliau Cymorth Cyntaf

Ysgrifennwch lythyr

Ysgrifennwch lythyr at rywun a all wneud gwahaniaeth yn eich ardal leol, fel eich Aelod o’r Senedd neu eich Aelod Seneddol (AS). Ceisiwch weld beth y gall ei wneud er mwyn helpu i annog mwy o bobl i ddysgu sgiliau cymorth cyntaf a bod yn garedig.

Ysgrifennu creadigol

Ysgrifennwch gerdd, stori neu gân am garedigrwydd, helpu eraill a phwysigrwydd dysgu sgiliau cymorth cyntaf. Darllenwch neu perfformiwch yr hyn rydych chi wedi’i greu, neu gallech hyd yn oed ofyn i’ch ysgol neu’ch grŵp ieuenctid ei argraffu neu ei roi ar-lein.

Ewch ati i greu

Byddwch yn greadigol ac ewch ati i ddylunio poster, meddwl am syniadau ar gyfer calendr caredigrwydd neu greu arddangosfa wal neu arddangosfa ar-lein – cewch fod mor greadigol ag yr hoffech chi!

Gwnewch boster

Ewch ati i greu poster ar gyfer eich ysgol neu eich ardal leol, i rannu syniadau am gymorth cyntaf a bod yn garedig. Meddyliwch am yr hyn yr hoffech chi ei ddweud a sut i wneud eich poster yn ddeniadol er mwyn cyfleu eich neges.

Calendr gweithredoedd caredig

Rhannwch garedigrwydd drwy wneud un peth caredig bob dydd am fis, boed hynny gartref, yn yr ysgol neu yn eich ardal leol. Siaradwch â phobl eraill am y ffordd mae bod yn garedig yn gwneud i chi deimlo, a rhannwch eich syniadau â ffrindiau.

Arddangosfa wal

Ewch ati i greu arddangosfa wal er mwyn i bobl eraill allu dysgu am garedigrwydd cymorth cyntaf. Meddyliwch am sut byddwch chi’n dangos yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu drwy gelf. Gallech chi dynnu llun a’i rannu ar-lein â’ch ysgol neu’ch grŵp ieuenctid.

Ewch ati i addysgu

Ydych chi’n dda am drosglwyddo’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu i bobl eraill? Dangoswch sgìl cymorth cyntaf i’ch teulu a’ch ffrindiau neu addysgwch nhw sut i beidio â chynhyrfu drwy ddefnyddio sgìl ymdopi fel anadlu gyda lliw.

People smiling. Pobl yn gwenu.

Cynlluniwch grŵp cinio

Dechreuwch glwb cymorth cyntaf, caredigrwydd a diogelwch amser cinio neu ar ôl ysgol. Helpwch eich ffrindiau i ddysgu sgiliau cymorth cyntaf ac i feddwl am rannu caredigrwydd.

Addysgwch sgìl cymorth cyntaf

Addysgwch o leiaf un sgìl cymorth cyntaf i’ch teulu. Gwyliwch y ffilmiau cymorth cyntaf er mwyn dangos y camau allweddol i’w cymryd, yna ewch ati i ymarfer drwy chwarae rôl. Gofynnwch iddyn nhw lawrlwytho ap cymorth cyntaf y Groes Goch Brydeinig.

AP Y GROES GOCH

Dangos a dweud yn y gwasanaeth

Defnyddiwch y ffilmiau a’r syniadau chwarae rôl ar y tudalennau sgiliau cymorth cyntaf i addysgu sgìl cymorth cyntaf i’ch ysgol neu’ch grŵp ieuenctid. Cofiwch eu haddysgu am fod yn garedig a chadw’n ddiogel hefyd.

SGILIAU CYMORTH CYNTAF

Adrannau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Dele checks to see if his grandfather can respond. Mae Dele yn gwirio i weld a all ei dad-cu ymateb.

Sgiliau cymorth cyntaf

Dysgu ac ymarfer wyth sgil cymorth cyntaf gwahanol y gall plant ysgol gynradd eu defnyddio i helpu eraill.

Jonjo and his father reassure Ekam. Mae Jonjo a'i dad yn cysuro Ekam.

Caredigrwydd ac ymdopi

Cyfle i ddysgu am garedigrwydd ac ymarfer sut i ymdopi a pheidio â chynhyrfu.

Jonjo and Ekam talk to an adult. Jonjo a Ekam yn siarad i oedolyn.

Diogelwch

Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel wrth helpu eraill.

Liya and her father talking in a park. Liya a'i thad yn siarad yn y parc.

Rhannu

Cyfle i rannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill.