Trawsgrifiad Fideo Gwaedu
Trawsgrifiad o’r ffilm i gael gwybod sut i helpu rhywun sy’n gwaedu llawer.
Mam: Mae’r rhain yn edrych yn wych.
Beth: Diolch, Mam!
Georgia: Diolch, Jacqui!
Mam: Dyna seren arall wedi'i gwneud. Www, mae angen i mi gymryd yr alwad hon yn yr ystafell arall. Peidiwch â thorri dim byd. Dim ond munud fydda i. Helo, o helo Denise, ie...
Beth: Mae dy un di'n edrych yn dda iawn!
Georgia: A dy un di hefyd.
Beth: Mewn ffordd, byddai'n well gen i pe baen ni wedi gwneud mygydau nawr, ond rwy'n dal i hoffi barcudiaid.
Georgia: Fy mraich!
Beth: Wyt ti’n iawn? Rwyt ti’n gwaedu.
Georgia: Mae’n gwaedu llawer.
Beth: Brysia! Pwysa arni hi. Stopia’r gwaed.
Georgia: Mi ydw i.
Beth: Fe af fi i nôl lliain sychu llestri.
Georgia: Mae’n brifo!
Beth: Mae’n iawn; cadwa’r pwysau arni er mwyn stopio'r gwaedu. Mam!
Georgia: Rwy'n teimlo ychydig yn sâl.
Beth: Mae’n iawn. Cadwa’r pwysau arni. Mam!
Mam: Beth sy’n digwydd? Georgia!
Beth: Mae hi wedi agor ei braich. Mae’n gwaedu. Mae’n gwaedu llawer. Mae angen i ni alw ambiwlans!
Mam: Defnyddia fy ffôn i, Beth. Mae’n iawn.
Beth: Helo, ie, mae angen i ni gael ambiwlans.
Beth: Os bydd rhywun yn gwaedu, pwyswch yn galed ar y man sy'n gwaedu. Ewch i roi gwybod i oedolyn a ffonio 999. Daliwch ati i bwyso arno nes bydd help yn cyrraedd. Os bydd rhywun yn gwaedu, cofiwch bwyso arno’n galed.