Trawsgrifiad fideo rhywun nadyw’n ymateb nac yn anadlu

Dele: Helo Taid!

Dad: Helo Dad, wyt ti’n iawn? Rwyt ti’n edrych yn flinedig iawn.

Taid: Rwy’n iawn, wedi blino ychydig ond dim byd i boeni amdano. Beth bynnag, dewch i mewn. Diolch am fynd i siopa. Rho’r tegell i ferwi er mwyn i ni gael paned o de. Rwy’n mynd i ddiffodd y teledu.

Dele: Oes gennych chi fisgedi, Taid?

Taid: Dylai fod rhai yn y cwpwrdd.

Dad: Rwy’n mynd i’r toiled. Alli di ddadbacio’r siopa cyn cael bisgedi, os gweli di’n dda?

Dele: Iawn, wrthi’n ei wneud.

Dad: Ar fy ffordd i’r toiled, Dad.

Dele: Taid? Taid?! Taid! Taid! DAD!

Dad: DAD!

Dele: Dydy e ddim yn anadlu, Dad.

Dad: DAD!

Dele: Dad! Mae’n rhaid i ti gywasgu’r frest! Rwy’n mynd i ffonio am ambiwlans. Ble mae dy ffôn?

Dad: Fan hyn.

Dele: Iawn. Gwthia yng nghanol ei frest a dal ati.

Dad: Alli di fy nghlywed i, Dad? Mae’n mynd i fod yn iawn. Tyrd, Dad. Mae’n mynd i fod yn iawn, on’d ydy?

Dele: Helo, mae angen ambiwlans arna i. Mae fy nhaid wedi cwympo a dydy e ddim yn anadlu... Os na fydd rhywun yn ymateb, edrychwch i weld a yw’n anadlu. Os nad yw’n anadlu, rhowch wybod i oedolyn a ffoniwch 999. Dweud wrth yr oedolyn am gywasgu’r frest. Os na fydd rhywun yn ymateb nac yn anadlu, cofiwch: bydd angen cael help.