Llwybr dysgu yn y cartref

A yellow laptop. Laptop melyn.

Gwyddom fod gan athrawon a rhieni lawer i’w cadw’n brysur, ond beth allai fod yn fwy grymusol na dysgu sgiliau cymorth cyntaf hanfodol? Hyd yn oed yn well, gall y teulu cyfan gymryd rhan. 

Mae’r adnodd Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf* yn llawn gweithgareddau dysgu ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 5 ac 18 oed. O ffilmiau a ffotograffau i weithgareddau chwarae rôl a chwisiau, mae rhywbeth at ddant pawb. 

I’ch helpu i ddechrau ar y wefan, rydym wedi creu dau lwybr dysgu (ar gyfer pob un o’r adrannau cynradd ac uwchradd) i’ch helpu i ddefnyddio’r safle mewn lleoliad dysgu yn y cartref. Mae’r safle cyfan yn rhad ac am ddim i chi ei ddefnyddio a’i archwilio, ac mae’r llwybrau yno i’ch tywys os oes angen.  

Llwybr uwchradd 1 

  • Deall sut i gadw eich hun yn ddiogel. 

Gallwch barhau i weithio drwy’r safle, clicio ar y cynlluniau addysgu i’w lawrlwytho i weld syniadau am weithgareddau, neu aros tan ein bod yn rhyddhau’r llwybr nesaf er mwyn parhau i ddysgu. 

I gael manylion llawn y llwybr, lawrlwythwch y ddogfen isod. 

Lawrlwytho llwybr dysgu yn y cartref 1

0mb

LLlwybr dysgu yn y cartref 1 - Uwchradd

Lawrlwytho LLlwybr dysgu yn y cartref 1 - Uwchradd (DOCX)

Llwybr uwchradd 2 

  • Archwiliwch sgil a phrofwch eich hun gyda chwis. 
  1. wedi torri asgwrn a chwis
  2. yn tagu a chwis
  3. amheuir ei fod yn cael trawiad ar y galon a chwis
  4. amheuir ei fod yn cael strôc a chwis

Gallwch barhau i weithio drwy’r safle, clicio ar y cynlluniau addysgu i’w lawrlwytho i weld syniadau am weithgareddau, neu aros tan ein bod yn rhyddhau’r llwybr nesaf er mwyn parhau i ddysgu. 

I gael manylion llawn y llwybr, lawrlwythwch y ddogfen isod. 

Lawrlwytho llwybr dysgu yn y cartref 2

Adborth 

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth ar Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf. Anfonwch neges e-bost at reducation@redcross.org.uk i leisio eich barn am sut y gallwn wella’r safle.