Trawsgrifiad ffilm ffit - eilaidd

Pan gafodd Ethan y ffit yn fy nhŷ i, roedden ni wedi chwarae ers tair awr heb stopio. Roedden ni wedi bod yn ceisio cynyddu ein sgôr yn y gêm ers amser hir, ac roedden ni'n teimlo ein bod ni’n dechrau llwyddo.
Rydw i’n mynd yn gyffrous pan fyddwn ni’n chwarae’r gemau. Mae’n anodd peidio! Mae Ethan yn well am saethu na fi,
felly y noson honno fo oedd yn arwain.
Sylweddolais fod rhywbeth o’i le pan ddechreuodd golli ambell saethiad hawdd. Doeddwn i ddim yn deall, felly gofynnais iddo ‘beth sy’n mynd ymlaen?’ - Ddim mewn ffordd gas.
Ond pan wnes i droi rownd, roeddwn i’n gallu gweld nad oedd o’n gwbl ymwybodol. Yna disgynnodd yn ôl, aeth yn stiff a dechrau ysgwyd. Roedd ei lygaid wedi rowlio. A dweud y gwir, roeddwn i’n ofnus – doeddwn i erioed wedi gweld rhywbeth
fel hynny mewn bywyd go iawn o’r blaen.
Roedd ei ben a’i gorff yn ysgwyd – gallai fod wedi brifo ei hun ar rywbeth.
Doeddwn i ddim eisiau mynd ar ei ffordd, felly sefais yn ôl a galw ar fy mrawd mawr, Adam, i ddod o’r gegin. Gafaelodd mewn blanced o’r soffa, ei rhoi dan ei ben, a symud y bwrdd. Yna, dywedodd wrtha' i ffonio 999 cyn gynted ag y gallwn.
Fel arfer bydda i’n dweud wrth mam a dad nad oes angen neb i fy ngwarchod – ond roeddwn i’n falch iawn bod Adam yno y noson honno.
Doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai un o fy ffrindiau yn cael ffit... ond o leiaf rydw i’n gwybod beth i’w wneud nawr, os bydd hynny’n digwydd eto.

Doeddwn i ddim yn gwybod bod Ethan yn cael ffitiau. Yn eich barn chi, pam oedd o wedi penderfynu peidio â dweud wrtha i?