Trawsgrifiad ffilm gwenwyno - eilaidd

Rydw i wedi bod yn yr ysgol, ac wedi cael fy magu, gyda’r un bobl fwy neu lai drwy gydol fy mywyd, gan gynnwys
Carly. Mae hi’n gyfnither ac yn ffrind gorau i fi.
Roeddwn i wedi aros yn hwyr yn yr ysgol yn y clwb celf, felly pan oeddwn i ar fy ffordd adre gwelais fy mod i wedi cael neges llais gan Carly. Roeddwn i’n poeni ar unwaith.
Doedd hi ddim wedi yn yr ysgol ers wythnosau, cur pen mae’n debyg... roedd y meddygon yn ymchwilio i’r mater.
Doedd hi ddim yn swnio’n iawn, y ffordd roedd hi’n siarad yn ei neges. Roedd hi’n siarad yn aneglur, a doedd hi ddim yn gwneud synnwyr. Wnes i ddeall ei bod yn dweud rhywbeth am feddyginiaeth...
Cyrhaeddais yno mor gyflym â phosib. Cnociais yn gyntaf i weld a oedd ei rhieni adre, ond doedd neb yn ateb, felly wnes i adael fy hun i mewn.
Roedd y tŷ’n rhyfedd o dawel, doedd neb yn y lolfa felly es i fyny’n syth i
Ystafell Carly.
Yno roedd hi, ar y gwely, â’i llygaid yn hanner agored ac yn rholio. Roedd y teledu ymlaen –
raglen sgwrsio, ond doedd hi ddim yn ei gwylio.
Doeddwn i ddim yn gallu mynd ati i ddechrau. Wnes i aros yno’n edrych arni hi. Roedd hi mor welw. Es yn nes ati, a cheisio cyffwrdd ei braich a dweud ei henw. Roedd hi mor ffwndrus ac yn siarad yn aneglur.
Dywedodd wrtha i, ‘Ydw i wedi cymryd gormod..?’ Doeddwn i ddim yn gwybod! Gofynnais iddi: ‘gormod o beth...?’ A dyna pryd welais i'r botel wag ar y llawr...
Ffoniais 999 a gofyn am ambiwlans. Beth arall allwch chi wneud pan fyddwch chi’n gweld eich ffrind gorau fel hyn? Wna i byth anghofio gweld hynny.

Roedd gweld Carly yn y fath gyflwr yn frawychus iawn... sut byddech chi’n ymateb petaech chi’n gweld ffrind neu aelod o’ch teulu mewn sefyllfa debyg?