Trawsgrifiad ffilm rhywun sydd ddim yn ymateb ond yn anadlu - eilaidd

Un funud roedden ni’n cael hwyl yn nhŷ ein ffrind, a’r funud nesaf roedd sŵn seiren a phanig. Roedd yn ofnadwy.

Roedden ni newydd sefyll arholiadau yn y coleg, felly roedden ni’n dathlu, fel pawb.

Gofynnon ni i ffrind flwyddyn yn hŷn na ni i nôl alcohol i ni, ac aeth y tri ohonom yn ôl i'w thŷ hi.

Roedd popeth yn dda – roedd y miwsig ymlaen yn uchel, cawson ni pizza, poteli o seidr, cwrw, roedd gan Sophie tequila yn y tŷ yn barod...

Wrth feddwl yn ôl, efallai ein bod ni wedi mynd dros ben llestri.

Cymerodd amser i ni sylweddoli doedd Mark ddim yn dal yno. Roedden ni’n rhy brysur yn cael amser da, mae’n rhaid. Es i fyny’r grisiau i weld o gwmpas, a dyna pryd ddes i o hyd iddo.

Roedd drws y tŷ bach yn gilagored. Ceisiais fynd i mewn, roedd rhaid i mi wthio’r drws, ac yna sylweddolais fod Mark wedi cwympo yn ei erbyn.

Llwyddais i wasgu i mewn, a gweld oedd o’n dal i anadlu, mi oedd o, ond roedd o wedi chwydu. Dwi’n gallu cofio’r arogl... Roeddwn i’n poeni y gallai dagu, felly rhoddais o ar ei ochr a gwyro ei ben yn ôl.

Roedd y gerddoriaeth mor uchel i lawr y grisiau. Roedd yn llenwi fy mhen, doeddwn i ddim yn gallu meddwl yn glir. Gweiddais ar Sophie i’w ddiffodd a ffonio 999, i gael help.

Roeddwn i’n dweud wrth Mark ei fod yn mynd i fod yn iawn wrth i ni aros am yr ambiwlans, a dywedodd wrtha’ i wedyn ei fod yn gallu fy nghlywed a bod hynny wedi gwneud iddo deimlo’n dawel - wn i ddim sut - doeddwn i ddim yn teimlo’n dawel o gwbl. Rydw i’n falch iawn fy mod i yno i helpu fy ffrind pan oedd fy angen.

Beth fyddech chi’n ei wneud i helpu rhywun sydd ddim yn ymateb ond sy’n anadlu?