Trawsgrifiad ffilm tagu

“Mae Steph a finnau’n cerdded ac yn siarad drwy’r amser, ac os ydyn ni ar frys, byddwn ni’n cerdded ac yn bwyta. Mae’n well gen i gerdded a bwyta, er mwyn cael ychydig funudau yn fwy yn fy ngwely. 
Y diwrnod hwnnw, doedd y bwyd ddim yn wahanol i’r arfer, dim ond bar grawnfwyd – rydw i’n eu bwyta nhw’n aml, ac mae’n rhaid ein bod ni’n chwerthin ar un o drychinebau ffasiwn Steph ar y penwythnos cynt pan aeth darn ohono yn gwbl sownd yn fy ngwddf. 
Ceisiais ei lyncu, ac yna ceisio ei godi i fyny, ond doedd dim yn gweithio. Allwn i ddim anadlu a dechreuais fynd i banig. 
Roeddwn i’n gallu teimlo fy wyneb yn mynd yn fwy ac yn fwy coch, ac roeddwn i’n edrych ar Steph ac eisiau iddi hi fy helpu i ond doedd dim geiriau’n dod allan. Felly, fe wnes i stopio’n stond a phlygu drosodd 
– gan feddwl y byddai hynny’n helpu rywsut, a dechreuais weld sêr a chau fy llygaid, roeddwn i’n mynd i banig. 
Roedd Steph yn gofyn i mi – ‘beth sy’n bod, wyt ti’n iawn – wyt ti’n tagu?!’ Roedd mewn syndod – roeddwn i mewn syndod. Roeddwn i’n tagu, ac roedd ofn mawr arna i. 
Roeddwn i’n teimlo fy mod i am lewygu, ac roeddwn i’n teimlo mai dyma oedd y diwedd. 
Dechreuodd Steph daro fy nghefn, dro ar ôl tro, a doeddwn i ddim yn meddwl bod hynny'n mynd i helpu... ond, yr un mor gyflym ag roedd hyn wedi digwydd, roedd popeth drosodd. 
Hedfanodd y darn allan o fy ngheg, a dyna lle roeddwn i ar y palmant yn ceisio anadlu, ac yn poeri ymhobman. Roeddwn i’n teimlo cymaint o ryddhad. Edrychais ar Steph ac fe ddechreuon ni chwerthin, yn nerfus wrth gwrs, oherwydd roeddwn i bron â chael fy lladd gan far grawnfwyd, allwch chi gredu’r peth? 

Yn ddiweddarach, dywedodd Steph ei bod yn teimlo’n euog am fy nharo mor galed, ond fe weithiodd hynny ...” 

Yn eich barn chi, oedd angen iddi deimlo’n euog?