Trawsgrifiad fideo trawiad ar y galon - eilaidd
“Roedd gêm fawr ar y gweill, gêm yn erbyn ein gelynion pennaf, felly roedd yr Hyfforddwr yn gwneud i ni weithio’n llawer caletach nag arfer.
Weithiau mae’n gallu cynhyrfu, ond rydyn ni i gyd wedi arfer â hynny. Ond dydych chi ddim yn disgwyl i’ch hyfforddwr lewygu yng nghanol sesiwn hyfforddi. Dydy o ddim yn rhedeg o gwmpas cymaint â ni wrth gwrs, ond mae’n fwy ffit na’r rhan fwyaf o bobl.
Un funud mae’n gweiddi arnon ni o’r ochr, y funud nesaf mae fy ffrind Deano yn galw arnon ni i ddod oddi ar y cae. Roeddwn i wrthi’n chwarae, newydd roi’r bêl yng nghefn y rhwyd – roeddwn i’n meddwl tybed pam doedd y gôl-geidwad ddim yn talu sylw. Wnes i droi rownd a gweld bod pawb wedi ymgasglu lle roedd yr hyfforddwr wedi bod yn sefyll.
Roeddwn i fwy mewn penbleth nag yn bryderus, felly rhedais i weld beth oedd yn digwydd.
Roeddwn i’n gallu gweld yr Hyfforddwr yn eistedd ar y glaswellt, wedi plygu drosodd ac yn cydio yn ei frest. Roedd o’n ceisio anadlu ac yn sôn am rywbeth yn gwasgu a bod poen yn ei freichiau.... Doedd pethau ddim yn dda.
Roedd ei ên wedi gwasgu ac roedd o’n chwysu llawer. Mae o’n ddyn caled – doeddwn i erioed wedi’i weld yn ofnus neu’n poeni am ddim.
Roedd y bechgyn eraill yn gofalu amdano: Arhosodd Deano gyda’r Hyfforddwr drwy’r amser, yn dweud wrtho i beidio â chynhyrfu. Llwyddodd i gael y ffôn allan o boced yr Hyfforddwr a’i roi i Dan i ffonio ambiwlans, tra bod Robin wedi rhedeg i gael help... fe wnes i geisio aros allan o’r ffordd, doeddwn i ddim yn gwybod beth arall i’w wneud...”
Doeddwn i ddim yn gwybod beth arall i’w wneud pan welais i’r hyfforddwr fel hyn. Yn eich barn chi, fyddwn i wedi gallu gwneud unrhyw beth arall?