Trawsgrifiad fideo: ‘Cadw’n ddiogel’ gan Liya
“Helo, Liya ydw i. Mae gofalu am eraill yn bwysig iawn i mi. Os oes rhywun angen cymorth, mae’n wych gallu gwneud hynny, ond mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn cadw’n ddiogel hefyd. Arhoswch gydag oedolyn rydych chi’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo, ac y gallwch ddibynnu arno i gael cymorth. Ac os ydych chi ar eich pen eich hun neu os nad yw’n ddiogel, gallwch bob amser alw ar rywun am gymorth. Cadwch yn ddiogel!"