Trawsgrifiad fideo llosgi

Liya: Maen nhw’n ych a fiiiii. Beth maen nhw'n ei wneud? Ydyn nhw’n brathu?

Beth: Nac ydyn, dydyn nhw ddim yn brathu. Maen nhw’n llysieuwyr.

Liya: O ble maen nhw’n dod?

Beth: Affrica.

Liya: Ydyn nhw'n llysnafeddog? Maen nhw’n edrych yn llysnafeddog.

Beth: Nac ydyn. Gei di ddal un os hoffet ti?

Liya: Na, rwy’n iawn, diolch.

Beth: Hoffet ti siocled poeth?

Liya: Ymm, iawn. Ble mae dy fam?

Beth: Mae hi yn yr ystafell wely.

Liya: Oes gen ti falws melys?

Beth: Dydw i ddim yn credu, ond edrycha yn y cwpwrdd. Byddan nhw yn y cwpwrdd os oes rhai. AWW fy llaw!

Liya: Brysia – rho hi o dan ddŵr oer.

Beth: Mae wir yn brifo!

Liya: Mae’n iawn, cadwa hi o dan y dŵr oer.

Mam: Beth sy’n digwydd? Wyt ti’n iawn, Beth?

Liya: Mae dŵr berwedig wedi mynd ar ei llaw.

Beth: Mae’n ddrwg gen i, Mam.

Mam: Paid ag ymddiheuro. Mae’r pethau hyn yn digwydd. Cadwa dy law o dan y dŵr oer. Rwyt ti wedi gwneud yr union beth iawn.

Liya: Ac ar ôl iddi hi oeri, fe wnawn ni ei gorchuddio hi.

Mam: Mae hynny’n dda. Da iawn. Sut mae’n teimlo?

Beth: Mae’n dal i frifo ond mae’n teimlo’n well o lawer.

Mam: Bydd hyn yn helpu i leddfu’r boen a'i chadw hi’n lân.

Beth: Iawn.

Liya: Dwi’n credu dy fod wedi codi ofn ar Sam a Joey! Os bydd rhywun wedi llosgi, oerwch y llosg o dan ddŵr oer sy’n llifo am o leiaf 20 munud. Ewch i ddweud wrth oedolyn. Ar ôl i’r llosg oeri, gorchuddiwch ef â chling ffilm neu fag plastig glân. Os bydd rhywun wedi llosgi, cofiwch oeri’r llosg.