Trawsgrifiad fideo rhywun nad yw’n ymateb ond sy’n anadlu
Dad: Sut aeth y nofio heddiw?
Liya: Roedd e’n wych. Dywedodd Mam fy mod yn nofio ar fy nghefn yn beeerffaith. Wel, dywedodd hi fy mod i’n dda iawn.
Dad: Bob amser moooor wylaidd.
Liya: Hoffwn i fod yn achubwr bywydau fel hi – rwyt ti’n cael eistedd mewn cadair fawr drwy’r dydd ac achub pobl.
Dad: Rydw i wedi gweld dy sgiliau eistedd; mae’n edrych yn broffesiynol iawn o flaen y teledu.
Liya: Dad! Rwy’n meddwl bod y person hwnnw wedi syrthio.
Dad: Pa berson?
Liya: Yn fan yna, Dad, dydy e ddim yn codi. Ddylen ni ei helpu?
Dad: Iawn, tyrd.
Liya: Ydy e’n iawn?
Dad: Helo. Helo, allwch chi fy nghlywed i? Helo?! Dydy e ddim yn ymateb o gwbl.
Liya: Ydy e’n anadlu?
Dad: Ydy, mae’n anadlu.
Liya: Iawn, wel mae angen i ti ei droi ar ei ochr os galli di, er mwyn iddo allu anadlu. Dylen ni ffonio am ambiwlans, Dad.
Dad: Fe wna i ffonio nawr. Ambiwlans os gwelwch yn dda…
Liya: Os na fydd rhywun yn ymateb, edrychwch i weld a yw’n anadlu. Os yw’n anadlu, rholiwch yr unigolyn ar ei ochr a gwyrwch ei ben yn ôl. Ffoniwch 999. Os na fydd rhywun yn ymateb ond yn anadlu, cofiwch: rholiwch ef drosodd a gwyrwch ei ben yn ôl.