Trawsgrifiad fideo tagu

Dad: Reit, chi’ch dau, mae gen i ychydig o waith i’w orffen cyn swper. Os ydych chi’n llwglyd, mae sleisen neu ddwy o bitsa ar ôl ers neithiwr i’ch cadw chi i fynd. Luke: Iawn

Dad: Peidiwch â gwneud llanast.

Dele: Iawn, Dad, wnawn ni ddim. Pitsa madarch...

Luke: Beth sy'n bod arno?

Dele: O, dim byd. Dyma ti. Rwy'n mynd i wylio'r teledu

Luke: Arhosa. Ga i ddewis beth i’w wylio heno? Ti a Dad sydd bob amser yn dewis!

Dele: Haha dim gobaith

Luke: Dydy hynny ddim yn deg!

Dele: Luke! Ble wyt ti wedi rhoi'r teclyn rheoli? Luke?! Ble wnest ti roi’r teclyn rheoli? Luke! Luke! Ble wnest ti roi’r... LUKE?! Wyt ti’n tagu? Wyt ti'n iawn? Dad! Daaaad!

Dad: Beth sy’n digwydd?!

Dele: Roedd Luke yn tagu, Dad

Dad: Luke? Wyt ti’n iawn? Hei, mae'n iawn, on’d ydy?

Dele: Os bydd rhywun yn tagu, tarwch ef yn galed ar ei gefn. Os bydd rhywun yn tagu, cofiwch: tarwch ei gefn.