Trawsgrifiad fideo torri asgwrn

Torri asgwrn

Dad: Peidiwch â mynd yn rhy bell, fechgyn, fe fydda i fan hyn. Gwnewch yn siŵr fy mod i’n gallu eich gweld chi.

Jonjo: Iawn, Dad.

Dad: Byddwch yn ofalus. Fydda i fan hyn.

Ekam: Byddwn ni'n iawn.

Jonjo: Fe hoffwn i pe bai yna fwy o fryniau yma er mwyn i ni allu mynd ychydig yn gyflymach.

Ekam: Mae fy meic i’n gyflym heb fryniau. Mae ganddo 21 gêr.

Jonjo: Iawn, fe gawn ni ras at y llyn.

Ekam: Ble wrth y llyn?

Jonjo: Ar ymyl y llyn.

Ekam: Wel, rwy'n teimlo braidd yn flinedig felly ti fydd yn ennill, fwy na thebyg!

Jonjo: Ekam? Ekam! Ekam, beth ddigwyddodd? Wyt ti’n iawn?

Ekam: Fy mraich i – mae wir yn brifo. Dydw i ddim yn gallu ei symud hi.

Jonjo: Paid â cheisio ei symud hi. Gad i mi roi fy mag o dan dy fraich i’w chynnal hi.

Ekam: Aww mae’n brifo’n ofnadwy.

Jonjo: Fe wna i nôl fy nhad. Dad! Dad! Dad! Dad!

Dad: Jonjo! Jonjo!

Jonjo: Mae fy nhad yn dod, bydd popeth yn iawn.

Dad: Beth ddigwyddodd?

Jonjo: Dad, mae Ekam wedi brifo ei fraich.

Dad: Ble mae’n brifo?

Ekam: Fe wnes i syrthio oddi ar fy meic. Rwy'n credu fy mod wedi torri fy mraich – mae wir yn brifo.

Jonjo: Anadla’n ddwfn, iawn?

Dad: Iawn, fe awn ni â ti i’r ysbyty. Fe fydd popeth yn iawn.

Jonjo: Os byddwch chi’n credu bod rhywun wedi torri asgwrn, dylech ei gadw’n llonydd a’i gynnal, a dweud wrth oedolyn. Os byddwch chi'n credu bod rhywun wedi torri asgwrn, cofiwch gadw’r asgwrn yn llonydd.