Strôc

Dysgwch sut i helpu rhywun sy’n cael strôc.
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod pan fydd rhywun yn cael strôc
- Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd pan fydd rhywun yn cael strôc
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannu rhywbeth creadigol er mwyn rhoi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw helpu rhywun sy'n cael strôc

Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Cliciwch drwy’r sleidiau isod i wylio’r ffilm.
Cymorth cyntaf ar gyfer strôc

Cam 1.
Cofiwch y cam N.E.S.A. (English - F.A.S.T)
Nam ar yr wyneb: a oes gwendid ar un ochr i’w wyneb?
Estyn: a yw'n gallu codi’r ddwy fraich?
Siarad: a yw'n hawdd ei ddeall yn siarad?
Amser: ffonio 999.

Cam 2.
Ffoniwch 999 ar unwaith, neu gofynnwch i rywun arall wneud hynny.

Cam 3.
Siaradwch â’r person er mwyn ei gysuro wrth i chi aros i help gyrraedd.
Allwch chi helpu rhywun sy’n cael strôc?
Dysgu
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ddysgu beth i’w wneud pan fydd rhywun yn cael strôc.
0.4mb
Strôc – gweithgaredd dysgu
0.1mb
Strôc – arweiniad sgiliau dysgwyr
Ymarfer
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ymarfer sut i helpu rhywun sy'n cael strôc.
0.4mb
Ymarfer y sgìl cymorth cyntaf
0.2mb
Strôc - Ymarfer: Cardiau chwarae rôl
Rhannu a chofio
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i gofio’r camau allweddol a rhannu eu gwybodaeth ag eraill.

Neu ewch i...

Ddiymateb ond yn anadlu
Dysgwch sut i helpu rhywun sy’n ddiymateb ond sy'n anadlu

Helpu eraill
Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr, yr hyn sy'n cymell pobl i helpu a rhinweddau'r bobl sy'n gweithredu.

Diogelwch a lles
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.