Ymarfer sgiliau cymorth cyntaf
Ar ôl i’ch grŵp ddysgu amrywiaeth o sgiliau cymorth cyntaf, gallant eu hymarfer er mwyn gweld beth maen nhw wedi’i ddysgu a rhoi eu sgiliau ar waith. Mae modd defnyddio’r syniadau ar gyfer gweithgareddau isod mewn grwpiau. Maen nhw’n weithgareddau rhyngweithiol a chyflym sy'n atgoffa dysgwyr beth i’w wneud pan fydd angen cymorth cyntaf ar rywun.
Amcanion dysgu
- Ymarfer rhoi’r sgiliau cymorth cyntaf ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Deall effaith y gwyliwr a rhinweddau rhywun sy’n helpu
- Ymarfer blaenoriaethu a goresgyn rhwystrau rhag helpu mewn sefyllfa hysbys

Syniadau gweithgareddau ymarfer
Ymarfer y sgiliau
Bydd y dysgwyr yn ymarfer defnyddio’r sgiliau maen nhw wedi’u dysgu drwy feimio’r camau neu eu hymarfer ar fanicin. Anogwch y dysgwyr i wneud hyn mewn parau a gwylio a chefnogi ei gilydd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn dilyn y camau’n gywir.
Carwsél sgiliau
Bydd y dysgwyr yn ymarfer adnabod yr anaf/salwch a’r camau cymorth cyntaf cywir sydd eu hangen i helpu drwy symud rhwng gorsafoedd cymorth cyntaf mewn carwsél. Bydd rhywun ym mhob gorsaf yn darllen yr arwyddion a’r symptomau y mae’r person hwnnw’n eu dangos, a bydd y dysgwyr yn dweud beth ydyw a sut dylen nhw helpu.
Eitemau cymorth cyntaf pob dydd
Dangoswch ddetholiad o eitemau pob dydd i'r dysgwyr y gallen nhw ddod o hyd iddyn nhw o gwmpas eu tŷ neu yn eu meddiant a gofynnwch iddyn nhw baru’r eitem â’r sgìl a disgrifio sut bydden nhw’n ei defnyddio i helpu.
Chwarae rôl
Mewn grwpiau bach, anogwch y dysgwyr i ddarllen drwy’r detholiad o gardiau chwarae rôl ar bob un o’r tudalennau sgiliau cymorth cyntaf a thrafod y gwahanol bobl dan sylw, sut gwnaethon nhw helpu a sut gallen nhw helpu’n wahanol yn y dyfodol. Defnyddiwch ddetholiad o weithgareddau eraill i berfformio’r gweithgareddau chwarae rôl hyn ac ymchwilio i’r adegau allweddol yn y stori.
Ymarfer
Gallwch lawrlwytho cynllun llawn y syniadau ar gyfer gweithgareddau yma:
0.4mb
Ymarfer sgiliau cymorth cyntaf – syniadau gweithgareddau addysgu
Lawrlwytho Ymarfer sgiliau cymorth cyntaf – syniadau gweithgareddau addysgu (DOCX)

Sgiliau cymorth cyntaf
Dysgu ac ymarfer 17 o wahanol sgiliau cymorth cyntaf y gall myfyrwyr ysgol uwchradd eu defnyddio i helpu eraill.

Helpu eraill
Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr, yr hyn sy'n cymell pobl i helpu a rhinweddau'r bobl sy'n gweithredu.

Diogelwch a lles
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.

Rhannu a chofio
Cyfle i rannu’r pethau rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill, a chofio’r pethau rydych chi wedi’i ddysgu.
Arweiniad a chefnogaeth uwchradd.Secondary guidance and support
A resource library packed full of resources.