Pwl o asthma
Sut i helpu rhywun sy’n cael pwl o asthma.
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod pan fydd rhywun yn cael pwl o asthma
- Dysgu’r camau allweddol i helpu pan fydd rhywun yn cael pwl o asthma
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannu rhywbeth creadigol er mwyn rhoi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw helpu rhywun sy'n cael pwl o asthma

Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Cliciwch drwy'r sleidiau isod i wylio'r ffilm
Cliciwch y linc isod i ddarllen y trawsgrifiad fideo.
Cymorth cyntaf ar gyfer pwl o asthma

Cam 1
Gall rhywun sy'n cael pwl o asthma yn ei chael yn anodd anadlu. Efallai y byddan nhw'n gwneud sŵn gwichian. Helpwch yr unigolyn i eistedd i lawr a gorffwys yn gyfforddus.

Cam 2
Dywedwch wrtho am beidio â phoeni, a’ch bod yn mynd i’w helpu.

Cam 3
Helpwch yr unigolyn i ddefnyddio ei fewnanadlydd.

Cam 4
Ewch i ddweud wrth oedolyn. Os nad oes oedolyn o gwmpas, ffoniwch 999.
Ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gwybod sut i helpu rhywun sy'n cael pwl o asthma?
Dysgu
Defnyddiwch yr adnoddau hyn er mwyn helpu plant i ddysgu sut i helpu rhywun sy'n cael pwl o asthma.
0.5mb
Pwl o asthma – gweithgaredd dysgu
2.0mb
Pwl o asthma – Powerpoint dysgu
0.5mb
Pwl o asthma - cerdyn sut i helpu
Ymarfer
Defnyddiwch yr adnoddau hyn er mwyn helpu plant i ymarfer helpu rhywun sy'n cael pwl o asthma.
0.4mb
Ymarfer y sgìl cymorth cyntaf
0.5mb
Pwl o asthma – Cerdyn chwarae rôl - ymarfer
Lawrlwytho Pwl o asthma – Cerdyn chwarae rôl - ymarfer (DOCX)
Rhannu eich gwybodaeth ag eraill
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu plant i gofio a rhannu eu gwybodaeth ag eraill.

Neu ewch i...

Gwaedu
Dysgu sut i helpu rhywun sy'n gwaedu

Diogelwch
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel wrth helpu eraill.

Caredigrwydd ac ymdopi
Cyfle i ddysgu am garedigrwydd ac ymarfer sut i ymdopi a pheidio â chynhyrfu.