Diogelwch a lles
Cadw eich hun yn ddiogel a gofalu am eich lles
Pan fyddwn ni’n helpu rhywun drwy roi cymorth cyntaf, mae hefyd yn bwysig cadw ein hunain yn ddiogel. Gallai hyn olygu cadw golwg am unrhyw beryglon, neu wneud yn siŵr ein bod yn teimlo’n hyderus ac yn gallu ymdopi â sefyllfaoedd annisgwyl. Gallai hefyd olygu gwybod at bwy i droi am gymorth neu gefnogaeth a meddu ar rywfaint o sgiliau i ymdopi. Cofiwch y gallwn bob amser alw am help os bydd angen.
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod ffyrdd emosiynol ac ymarferol o helpu
- Dysgu ac ymarfer sut i gadw ein hunain ac eraill yn ddiogel
- Dysgu ac ymarfer sut i gadw ein hunain ac eraill yn ddiogel
Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Cymorth cyntaf ymarferol ac emosiynol
Yn y gweithgaredd hwn, ystyriwch beth sydd ei angen wrth helpu eraill drwy archwilio'r agweddau ymarferol ac emosiynol ar gymorth cyntaf. Cymerwch ddalen o bapur a thynnwch linell i lawr y canol i wneud dwy golofn. Ysgrifennwch ‘ymarferol’ ar frig un golofn, ac ‘emosiynol’ ar frig y llall.
Meddyliwch sut gallai person ifanc gefnogi rhywun mewn sefyllfa cymorth cyntaf. Gallai hyn fod yn ‘ymarferol’, e.e. rhoi pwysau ar glwyf, ffonio 999 ac ati, neu’n ‘emosiynol’, e.e. tawelu meddwl rhywun, neu ei gysuro nes bydd help yn cyrraedd ac ati. Nodwch eich syniadau yn y colofnau.
Nawr ystyriwch a oes angen y ddau ddull ar gyfer cymorth cyntaf. Beth all y person sy’n helpu ei wneud i'w helpu ei hun, yn emosiynol ac yn ymarferol?
Dysgu
0.4mb
Cymorth cyntaf ymarferol ac emosiynol – gweithgaredd addysgu
Lawrlwytho Cymorth cyntaf ymarferol ac emosiynol – gweithgaredd addysgu (DOCX)
Adrannau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
Sgiliau ymdopi
Cyfle i ddysgu sut i ymdopi mewn argyfwng cymorth cyntaf
Sgiliau cymorth cyntaf
Dysgu ac ymarfer 17 o wahanol sgiliau cymorth cyntaf y gall myfyrwyr ysgol uwchradd eu defnyddio i helpu eraill.
Helpu eraill
Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr, yr hyn sy'n cymell pobl i helpu a rhinweddau'r bobl sy'n gweithredu.
Rhannu a chofio
Cyfle i rannu’r pethau rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill, a chofio’r pethau rydych chi wedi’i ddysgu.