Adwaith alergaidd difrifol

Dysgwch sut i helpu rhywun sy’n cael adwaith alergaidd.
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod pan fydd rhywun yn cael adwaith alergaidd difrifol
- Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd pan fydd rhywun yn cael adwaith alergaidd difrifol
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannu rhywbeth creadigol er mwyn rhoi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw helpu rhywun sy'n cael adwaith alergaidd difrifol

Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Cliciwch drwy’r sleidiau isod i wylio’r ffilm
Beth i’w wneud os bydd rhywun yn cael adwaith alergaidd difrifol

Cam 1.
Efallai y bydd y person yn datblygu brech, cosi neu chwydd ar ei ddwylo, ei draed neu ei wyneb. Efallai y bydd ei anadlu’n arafu.

Cam 2.
Pan fyddwch chi’n gweld y symptomau hyn, ffoniwch 999 neu gofynnwch i rywun arall wneud hynny.

Cam 3.
Os bydd gan rywun alergedd hysbys a bod ganddo awto-chwistrellydd, gallwch ei helpu i’w ddefnyddio, neu ei wneud eich hun gan ddilyn y canllawiau ar y cynnyrch.

Cam 4.
Rhowch sicrwydd parhaus wrth aros i’r ambiwlans gyrraedd.
Allwch chi helpu rhywun sy’n cael adwaith alergaidd difrifol?
Dysgu
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ddysgu beth i’w wneud pan fydd rhywun yn cael adwaith alergaidd difrifol.
0.4mb
Alergedd – gweithgaredd dysgu
0.1mb
Alergedd – arweiniad sgiliau dysgwyr
Ymarfer
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ymarfer sut i helpu rhywun sy'n cael adwaith alergaidd difrifol.
0.4mb
Ymarfer y sgìl cymorth cyntaf
0.2mb
Adwaith alergaidd difrifol - Ymarfer: Cardiau chwarae rôl
Lawrlwytho Adwaith alergaidd difrifol - Ymarfer: Cardiau chwarae rôl (PDF)
Rhannu a chofio
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i gofio’r camau allweddol a rhannu eu gwybodaeth ag eraill.

Neu ewch i...

Straeniau ac Ysigiadau
Dysgu sut i helpu rhywun sydd â straen neu ysigiad.

Helpu eraill
Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr, yr hyn sy'n cymell pobl i helpu a rhinweddau'r bobl sy'n gweithredu.

Diogelwch a lles
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.