Ddiymateb a ddim yn anadlu pan fydd AED ar gael
Dysgwch sut i helpu rhywun sy'n ddiymateb a ddim yn anadlu pan fydd AED ar gael.
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod pan fydd rhywun yn ddiymateb a ddim yn anadlu pan fydd AED ar gael
- Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd pan na fydd rhywun yn ymateb nac yn anadlu pan fydd AED ar gael
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannu rhywbeth creadigol er mwyn rhoi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw helpu rhywun syn ddiymateb a ddim yn anadlu pan fydd AED ar gael
Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Cliciwch drwy’r sleidiau isod i wylio’r ffilm
Cliciwch y linc isod i weld y trawsgrifiad fideo.
Sut i helpu rhywun sy'n ddiymateb a ddim yn anadlu pan fydd AED ar gael
Cam 1.
Ni fydd rhywun nad yw’n ymateb yn ateb nac yn symud os byddwch chi’n galw ei enw neu’n tapio ei ysgwyddau. Os mai oedolyn yw’r sawl nad yw’n ymateb, ceisiwch ysgwyd ei ysgwyddau’n ysgafn.
Cam 2.
Edrychwch i weld a yw’n anadlu. Gwyrwch ei ben yn ôl – allwch chi weld ei frest yn symud? Allwch chi ei glywed, ei weld neu ei deimlo’n anadlu? Os na allwch, nid yw’n anadlu.
Cam 3.
Gofynnwch i rywun ffonio 999 ar unwaith. Dywedwch wrth rywun am fynd i nôl AED cyn gynted â phosibl.
Cam 4.
Cywasgwch y frest drwy wthio’n gadarn yng nghanol y frest i fyny ac i lawr.
Cam 5.
Gwthiwch y frest yn galed ac yn gyflym ar gyfradd reolaidd nes bydd yr AED yn cyrraedd.
Cam 6.
Pan fydd yr AED yn cyrraedd, agorwch ef a dilynwch y cyfarwyddiadau llais.
Allwch chi helpu rhywun sy’n ddiymateb a ddim yn anadlu pan fydd AED ar gael?
Dysgu
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ddysgu beth i’w wneud pan fydd rhywun ddiymateb a ddim yn anadlu pan fydd AED ar gael.
0.3mb
AED – gweithgaredd dysgu
0.2mb
AED - arweiniad sgilau dysgwyr
Ymarfer
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ymarfer sut i helpu rhywun nad yw’n ymateb nac yn anadlu pan fydd AED ar gael.
0.4mb
Ymarfer y sgìl cymorth cyntaf
0.2mb
AED – ymarfer chwarae rôl
Rhannu a chofio
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i gofio’r camau allweddol a rhannu eu gwybodaeth ag eraill.
Neu ewch i...
Helpu eraill
Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr, yr hyn sy'n cymell pobl i helpu a rhinweddau'r bobl sy'n gweithredu.
Diogelwch a lles
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.
Sgiliau cymorth cyntaf
Dysgu ac ymarfer 17 o wahanol sgiliau cymorth cyntaf y gall myfyrwyr ysgol uwchradd eu defnyddio i helpu eraill.