Hypothermia

Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod pan fydd gan rywun hypothermia o bosibl
- Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd pan fydd gan rywun hypothermia o bosibl
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannu rhywbeth creadigol er mwyn rhoi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw helpu rhywun sydd â hypothermia o bosibl
Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Cliciwch drwy’r sleidiau isod i wylio’r ffilm
Sut i drin person sydd â hypothermia

Cam 1
Mae’r amgylchedd yn oer. Gall y person fod yn crynu, yn welw ac yn oer i’w gyffwrdd. Efallai y bydd wedi drysu hefyd.

Cam 2
Ffoniwch 999 cyn gynted â phosibl, neu gofynnwch i rywun arall wneud hynny.

Cam 3
Ceisiwch gynhesu’r person drwy ei lapio mewn blanced neu ddillad cynnes a rhoi diodydd cynnes a bwydydd sy’n llawn egni, fel siocled, iddo.
Allwch chi helpu rhywun sydd â hypothermia?
Dysgu
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ddysgu beth i’w wneud pan fydd gan rywun hypothermia.
0.4mb
Hypothermia – gweithgaredd dysgu
0.1mb
Hypothermia – arweiniad sgiliau dysgwyr
Ymarfer
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ymarfer sut i helpu rhywun sydd â hypothermia.
0.4mb
Ymarfer y sgìl cymorth cyntaf
0.2mb
Hypothermia - Ymarfer: Cardiau chwarae rôl
Rhannu a chofio
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i gofio’r camau allweddol a rhannu eu gwybodaeth ag eraill.

Neu ewch i...

Llid yr ymennydd
Dysgwch sut i helpu rhywun sydd â llid yr ymennydd

Helpu eraill
Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr, yr hyn sy'n cymell pobl i helpu a rhinweddau'r bobl sy'n gweithredu.

Diogelwch a lles
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.