Straeniau ac Ysigiadau

Dysgu sut i helpu rhywun sydd â straen neu ysigiad.
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod pan fydd gan rywun straen neu ysigiad o bosibl
- Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd pan fydd gan rywun straen neu ysigiad o bosibl
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannu rhywbeth creadigol er mwyn rhoi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw helpu rhywun sydd â straen neu ysigiad o bosibl

Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Cliciwch drwy'r sleidiau isod i wylio'r ffilm
Cymorth cyntaf ar gyfer straen neu ysigiad

Cam 1
Mae’n bosibl y bydd gan rywun straen neu ysigiad os bydd rhan o’r corff wedi symud yn sydyn ac os bydd gan y person boen, chwydd neu glais o amgylch cymal neu gyhyr.

Cam 2
Rhowch becyn rhew ar yr anaf am hyd at ugain munud (e.e. bag o lysiau wedi’u rhewi wedi’i lapio mewn cadach).

Cam 3
Dywedwch wrth y person am orffwys y rhan o’r corff sydd wedi’i hanafu. Os na fydd gwelliant, ceisiwch gyngor meddygol.
Allwch chi helpu rhywun sydd â straen neu ysigiad?
Dysgu
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ddysgu beth i’w wneud pan fydd gan rywun straen neu ysigiad.
0.2mb
Straen neu ysigiad – gweithgaredd dysgu
0.1mb
Straen neu ysigiad – arweiniad sgiliau dysgwyr
Lawrlwytho Straen neu ysigiad – arweiniad sgiliau dysgwyr (PDF)
Ymarfer
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ymarfer sut i helpu rhywun sydd â straen neu ysigiad.
0.4mb
Ymarfer y sgìl cymorth cyntaf
0.2mb
Straen neu ysigiad - Ymarfer: Cardiau chwarae rôl
Lawrlwytho Straen neu ysigiad - Ymarfer: Cardiau chwarae rôl (PDF)
Rhannu a chofio
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i gofio’r camau allweddol a rhannu eu gwybodaeth ag eraill.

Neu ewch i...

Strôc
Dysgwch sut i helpu rhywun sy’n cael strôc.

Helpu eraill
Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr, yr hyn sy'n cymell pobl i helpu a rhinweddau'r bobl sy'n gweithredu.

Diogelwch a lles
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.