Tagu

Dysgwch sut i helpu rhywun sy’n tagu.
Amcanion dysgu
- Dysgu sut i adnabod pan fydd rhywun yn tagu
- Dysgu’r camau allweddol i’w cymryd pan fydd rhywun yn tagu
- Ymarfer rhoi’r camau allweddol ar waith mewn sefyllfa hysbys drwy sesiwn chwarae rôl
- Rhannu rhywbeth creadigol er mwyn rhoi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw helpu rhywun sy'n tagu
Oes gennych chi ID dysgwr?
Mewngofnodwch i gadw a thracio eich canlyniadau
Cliciwch drwy’r sleidiau isod i wylio’r ffilm
Cliciwch y linc isod i ddarllen y trawsgrifiad ffilm.
Sut i helpu rhywun sy’n tagu

Cam 1
Os bydd rhywun yn tagu, dywedwch wrtho am geisio pesychu. Efallai y bydd yn dal ei frest neu ei wddf.

Cam 2
Os na fydd y person yn gallu siarad, anadlu na phesychu, plygwch nhw ymlaen a rhowch hyd at bum ergyd ar y cefn â sawdl eich llaw rhwng y palfeisiau.

Cam 3
Os bydd yn dal i dagu, rhowch hyd at bum gwthiad abdomenol. Sefwch y tu ôl i’r person, rhowch eich dwylo at ei gilydd o gwmpas ei stumog a ffurfiwch ddwrn. Tynnwch i mewn ac i fyny.
Os bydd yn dal i dagu, dywedwch wrth oedolyn a ffoniwch 999. Ailadroddwch y camau nes y bydd yn gallu anadlu eto, neu nes bydd help yn cyrraedd.
Allwch chi helpu rhywun sy’n tagu?
Dysgu
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ddysgu beth i’w wneud pan fydd rhywun yn tagu.
0.4mb
Tagu – gweithgaredd dysgu
0.2mb
Tagu - arweiniad sgilau dysgwyr
Ymarfer
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i ymarfer sut i helpu rhywun sy'n tagu.
0.4mb
Sgiliau cymorth cyntaf – syniadau gweithgareddau ymarfer
Lawrlwytho Sgiliau cymorth cyntaf – syniadau gweithgareddau ymarfer (DOCX)
0.2mb
Tagu – ymarfer chwarae rôl
Rhannu a chofio
Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu pobl ifanc i gofio’r camau allweddol a rhannu eu gwybodaeth ag eraill.

Neu ewch i...

Anaf i’r pen
Dysgu sut i helpu rhywun sy’n cael pwl o asthma

Helpu eraill
Cyfle i ddysgu am effaith y gwyliwr, yr hyn sy'n cymell pobl i helpu a rhinweddau'r bobl sy'n gweithredu.

Diogelwch a lles
Cyfle i ddysgu ac i ymarfer sut i gadw’n ddiogel, defnyddio sgiliau ymdopi a gofalu am eich llesiant wrth helpu pobl eraill.