Llwybr dysgu yn y cartref

A yellow laptop. Laptop melyn.

Gwyddom fod gan athrawon a rhieni lawer i’w cadw’n brysur, ond beth allai fod yn fwy grymusol na dysgu sgiliau cymorth cyntaf hanfodol? Hyd yn oed yn well, gall y teulu cyfan gymryd rhan. 

Mae’r adnodd Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf* yn llawn gweithgareddau dysgu ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 5 ac 18 oed. O ffilmiau a ffotograffau i weithgareddau chwarae rôl a chwisiau, mae rhywbeth at ddant pawb. 

I’ch helpu i ddechrau ar y wefan, rydym wedi creu dau lwybr dysgu (ar gyfer pob un o’r adrannau cynradd ac uwchradd) i’ch helpu i ddefnyddio’r safle mewn lleoliad dysgu yn y cartref. Mae’r safle cyfan yn rhad ac am ddim i chi ei ddefnyddio a’i archwilio, ac mae’r llwybrau yno i’ch tywys os oes angen. 

Llwybr cynradd 1 

  • Archwiliwch dair sgil: 
  1. pwl o asthma
  2. llosgiadau
  3. gwaedu
  • Profwch eich hun gyda’n cwisiau. 

Gallwch barhau i weithio drwy’r safle neu weithio drwy’r llwybr arall. Cliciwch ar y cynlluniau addysgu i’w lawrlwytho i weld syniadau am weithgareddau sy’n berthnasol i bob sgil. 

I gael manylion llawn y llwybr, lawrlwythwch y ddogfen isod. 

Lawrlwytho llwybr dysgu yn y cartref 1

0.2mb

Llwybr dysgu yn y cartref 1 – Cynradd

Lawrlwytho Llwybr dysgu yn y cartref 1 – Cynradd (DOCX)

Llwybr cynradd 2 

  • Dysgwch sgil a phrofwch eich hun gyda chwis. Archwiliwch sut i helpu rhywun sydd: 
  1. ag anaf i’r pen a chwis
  2. efallai wedi torri asgwrn a chwis
  3. yn tagu a chwis
  • Rhannwch eich sgiliau newydd gydag eraill yn eich cartref. 

Gallwch barhau i weithio drwy’r safle neu weithio drwy’r llwybr arall. Cliciwch ar y cynlluniau addysgu i’w lawrlwytho i weld syniadau am weithgareddau sy’n berthnasol i bob sgil. 

I gael manylion llawn y llwybr, lawrlwythwch y ddogfen isod. 

Lawrlwytho llwybr dysgu yn y cartref 2

0.2mb

Llwybr dysgu yn y cartref 2 - Cynradd

Lawrlwytho Llwybr dysgu yn y cartref 2 - Cynradd (DOCX)

Adborth 

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth ar Hyrwyddwyr Cymorth Cyntaf. Anfonwch neges e-bost at reducation@redcross.org.uk i leisio eich barn am sut y gallwn wella’r safle.