Diogelwch
Cadw eich hun yn ddiogel
Pan fyddwn yn helpu rhywun y mae angen cymorth cyntaf arno, rhaid i ni gadw ein hunain yn ddiogel. Gallai hyn olygu cadw golwg am unrhyw beryglon, neu wneud yn siŵr ein bod ni gydag oedolyn rydyn ni’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo i’n helpu ni. Cofiwch y gallwn bob amser alw am help os bydd angen.
Yn y gweithgareddau hyn, byddwch chi’n dysgu sut i gadw golwg am rai o’r peryglon a allai achosi damwain. Byddwch chi hefyd yn ymarfer ffonio 999 er mwyn i ni allu cael help yn ddiogel mewn argyfwng, ac yn edrych ar rai senarios diogelwch.
Amcanion dysgu
- Dysgu a deall ffyrdd y gallwn gadw ein hunain ac eraill yn ddiogel
- Dysgu ac ymarfer sut i asesu ac adnabod peryglon
- Ymarfer sut i gynllunio ffyrdd o leihau perygl a gwneud pethau’n fwy diogel

Adnabod y perygl
Cliciwch yma i weld y llun 360, wedyn rhowch gynnig ar ateb y cwestiynau isod. Nid yw’r gweithgaredd hwn ar gael i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin ar hyn o bryd. Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a’ch amynedd wrth i ni weithio i ddarparu fersiwn amgen o’r ymarfer sy’n hygyrch i bawb.
Gan eich bod wedi dysgu am beryglon y gegin, meddyliwch am y sgiliau cymorth cyntaf y gallech eu defnyddio i helpu rhywun sydd wedi:
- llosgi
- taro ei ben
- cael briw sy’n gwaedu llawer
Edrychwch ar y sgiliau cymorth cyntaf er mwyn gweld beth i’w wneud, neu edrychwch i weld faint rydych chi wedi’i ddysgu drwy roi cynnig ar y cwisiau.
Dysgu
Defnyddiwch y gweithgaredd hwn er mwyn helpu plant i ddysgu sut i adnabod peryglon a chadw’n ddiogel.
0.4mb
Gweithgaredd addysgu dysgu llun 360 adnabod y peryglon
Lawrlwytho Gweithgaredd addysgu dysgu llun 360 adnabod y peryglon (DOCX)
0.8mb
Cyflwyniad PowerPoint cwestiynau amlddewis dysgu
Lawrlwytho Cyflwyniad PowerPoint cwestiynau amlddewis dysgu (PPTX)
Ymarfer
Cynhaliwch y gweithgaredd hwn lle bydd plant yn ymarfer beth i’w wneud i gadw’n ddiogel
0.4mb
Gweithgaredd addysgu ymarfer adnabod y peryglon
Lawrlwytho Gweithgaredd addysgu ymarfer adnabod y peryglon (DOCX)
Adrannau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Ffonio 999
Dysgwch sut i ffonio 999 mewn argyfwng

Sgiliau cymorth cyntaf
Dysgu ac ymarfer wyth sgil cymorth cyntaf gwahanol y gall plant ysgol gynradd eu defnyddio i helpu eraill.

Caredigrwydd ac ymdopi
Cyfle i ddysgu am garedigrwydd ac ymarfer sut i ymdopi a pheidio â chynhyrfu.

Rhannu
Cyfle i rannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ag eraill.